Tân: Cwest i farwolaeth dynes

Injan dân yn Llandudno Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Cafodd Nora Jones ei hachub o'r tân ddydd Mercher ond bu farw'r diwrnod canlynol

Cafodd cwest ei agor a'i ohirio wedi i ddynes 82 oed farw'n dilyn tân yn ei chartre' yn Llandudno.

Cafodd Nora Jones ei hachub o'r tân yn Rhodfa'r Drindod ddydd Mercher ond bu farw yn Ysbyty Glan Clwyd y diwrnod canlynol.

Roedd patholegydd wedi gohirio cofnodi achos ei marwolaeth.

Cafodd mab Mrs Jones hefyd ei gludo i'r ysbyty wedi'r tân a chafodd driniaeth yn yr uned gofal dwys.

Roedd ail fab wedi cael triniaeth am effeithiau anadlu mwg, ynghyd â dau ddiffoddwr tân.

Casglodd ymchwiliad fod y tân wedi dechrau mewn cwpwrdd ar y llawr gwaelod, a'r gred yw mai nam trydanol oedd ar fai.

Anfonwyd criwiau tân o Landudno, Conwy a Bae Colwyn i ddiffodd y fflamau yn y tŷ toc wedi 9am ddydd Mercher.

Llwyddodd y criwiau i ddiffodd y fflamau erbyn 10.15am.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.