Arian y llywodraeth at uned ddamweiniau yn Ysbyty Glan Clwyd
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi cymeradwyo ailddatblygu Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych ar gost o £89.9 miliwn.
Llywodraeth Cymru sydd wedi neilltuo'r arian ar gyfer y gwaith.
Fe fydd y prosiect yn cael gwared ar asbestos oedd yn y strwythur dur i atal tân rhag lledu, yn ôl arfer y 1970au pan adeiladwyd yr ysbyty.
Y nod yw sicrhau bod yr ysbyty'n dilyn y safonau iechyd a diogelwch diweddaraf.
Bydd nifer o wasanaethau ac adrannau yn cael eu symud yn ystod y cyfnod adnewyddu.
Yn yr ysbyty ddydd Iau dywedodd Ms Griffiths ei bod yn falch o gymeradwyo hyn "er mwyn i'r gwaith pwysig gychwyn".
'Toriadau'
"Bydd yn gwella amgylchiadau gwaith y staff ac yn gwella'r gwasanaethau i gleifion.
"Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i fuddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd ac mae'r cyhoeddiad yn dangos y gallwn ni wneud hynny er gwaethaf effeithiau'r toriadau ar gyllideb Cymru.
"Dw i'n edrych ymlaen at weld y gwaith yn mynd yn ei flaen."
'Gwella gofal'
Dywedodd Mr Neil Bradshaw, Cyfarwyddwr Cynllunio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae'r angen i gael gwared ar yr asbestos yn gyfle i ail-ddylunio'r adeilad fydd yn ein helpu i wella'r gofal i gleifion ..."
Dydd Mercher penderfynodd y cyngor sir ganiatáu i'r adran gael ei lleoli ar lawr gwaelod adeilad tri llawr newydd fydd yng nghornel dde-orllewinol prif adeilad yr ysbyty.
Bydd theatr llawdriniaethau newydd ar lawr cynta'r adeilad newydd.
Hefyd fe fydd "safle glanio," maes parcio ar gyfer ambiwlansys a maes parcio ar gyfer yr uned ddamweiniau.
Straeon perthnasol
- 15 Chwefror 2012
- 9 Chwefror 2012
- 22 Rhagfyr 2011