Achos treisio: Menyw yn lansio apêl
- Cyhoeddwyd

Mae menyw gafodd ei charcharu am wyrdroi cwrs cyfiawnder mewn achos treisio wedi lansio ei hapêl yn erbyn y ddedfryd.
Cafodd y fenyw 29 oed o Bowys ei charcharu am wyth mis gan Lys y Goron Yr Wyddgrug ond cafodd ei rhyddhau yn dilyn apêl ym mis Tachwedd 2010.
Penderfynodd barnwyr y Llys Apêl ddedfrydu'r fenyw i waith cymunedol a gosod gorchymyn goruchwylio am ddwy flynedd yn lle ei charcharu.
Er iddi gael ei rhyddhau o'r carchar ni newidiwyd y ddedfryd o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Ond yn awr mae'r llys yn cael ei annog i ddileu y ddedfryd.
'Anghyfiawn'
Ym mis Tachwedd y llynedd cafodd y fenyw ganiatâd i herio'r ddedfryd "anghyfiawn" a chael gwrandawiad apêl llawn.
Roedd y fenyw, sydd heb ei henwi, wedi honni yn wreiddiol iddi gael ei threisio gan ei gŵr.
Cafodd ef ei gyhuddo o chwe achos o dreisio yn 2009 gan bledio'n ddi-euog i'r cyhuddiadau.
Yn fuan wedi hynny dywedodd nad oedd hi am roi tystiolaeth yn ei erbyn.
Ond wrth iddi wynebu gwŷs i'w gorfodi i roi tystiolaeth dywedodd wrth yr heddlu fod ei chyhuddiadau yn gelwydd.
Yn wreiddiol cafodd ei chyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy wneud cwyn ffug.
Ond dywedodd y fenyw ei bod wedi ei thresio a'i bod wedi dweud celwydd drwy geisio gwadu'r cyhuddiad.
Gan gredu mai ei hadroddiad cyntaf oedd yr un iawn penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron i'w herlyn am ollwng cyhuddiad cywir.
Yn y pen draw ni chafodd unrhyw dystiolaeth ei gynnig yn erbyn ei gŵr.
Ym mis Tachwedd y llynedd, dywedodd bargyfreithiwr y fenyw, Niall Quinn QC, fod cyfarwyddyd gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn golygu na fyddai erlyniad o'r fath yn digwydd eto.
Honnodd ei bod yn anghywir ac anghyfiawn i erlyn rhywun oedd wedi dioddef trosedd.
Dywedodd yr Arglwydd Judge, mai'r unig sail i ddileu dedfryd oedd petai'r ddedfryd yn un "anniogel".
Yn yr achos hwn roedd y fenyw wedi pledio'n euog.
Ond rhoddodd ganiatâd i wrandawiad apêl llawn er mwyn asesu'r dystiolaeth a'r digwyddiadau wnaeth arwain iddi bledio'n euog.