Cyndditectif am fod yn gomisiynydd

  • Cyhoeddwyd
Paul CannonFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Ymddeolodd Mr Cannon o'r heddlu yn 2003

Mae dyn oedd yn yr heddlu am 30 o flynyddoedd am fod yn ymgeisydd Llafur ar gyfer swydd Comisiynydd Heddlu.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cannon o'r Rhondda fod "angen adfer ffydd yn yr heddlu".

Bydd yn herio'r cyn Weinidog Plismona, Alun Michael, a Simon Weston, y cyn-filwr oedd yn Rhyfel y Falklands, a bydd etholiadau'n cael eu cynnal ym mis Tachwedd.

Eisoes mae'r gweinidogion, Edwina Hart a Leighton Andrews, ac Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant, wedi dweud eu bod yn cefnogi Mr Cannon.

Ymddeol

Dywedodd Mr Cannon: "Gan fod fy ngwybodaeth am y gwasanaeth yn fanwl, dwi'n hyderus y galla i uniaethu â'r cyhoedd a mynd i'r afael â phryderon am blismona ..."

Dylai comisiynydd, meddai, alw'r prif gwnstabl i gyfri a sicrhau bod ymgynghori â'r cyhoedd.

Dilynodd Mr Cannon ôl troed ei dad drwy ymuno â'r heddlu ym 1973.

Gweithiodd fel plismon am y 30 mlynedd nesaf tan iddo ymddeol yn 2003.