£472,000 i brosiect yn erbyn hiliaeth

Robert Earnshaw Image copyright Getty Images
Image caption Mae Robert Earnshaw yn noddi ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth

Mae prosiect sy'n mynd i'r afael â hiliaeth ac yn cael ei gefnogi gan sêr pêl-droed ymysg rhai sy'n derbyn mwy na £4 miliwn oddi wrth Gronfa'r Loteri Fawr.

At ei gilydd mae £4,192.732 yn cael ei roi i brosiectau o dan y rownd ddiweddaraf.

Nod y gronfa yw dod â phobl ynghyd i wneud cymunedau'n gryfach a gwella amgylcheddau gwledig a threfol.

Mae hiliaeth yn y byd pêl-droed wedi bod yn amlwg ar dudalennau blaen papurau newydd a sgriniau teledu'n ddiweddar.

Ac mae £472,023 yn golygu bod cynllun Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn ehangu eu gwaith ac addysgu pobl ifanc ac athrawon am hiliaeth.

Noddwyr

Bydd mwy o weithdai gwrth-hiliaeth, cynadleddau i athrawon, clybiau ysgolion a chwaraeon ledled Cymru a gweithgareddau cynyddu ymwybyddiaeth i bobl ifanc drwy gyfrwng chwaraeon.

Mae sêr pêl-droed tîm Abertawe, Nathan Dyer a Neil Taylor, wedi cytuno i fod yn noddwyr.

Dywedodd noddwr arall, chwaraewr Cymru a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Robert Earnshaw: "Rwy wedi bod yn rhan o'r ymgyrch ers tro a dwi i'n falch o fod yn rhan ohoni.

"Mae plant yn dysgu o'r hyn y mae oedolion yn ei ddweud wrthyn nhw. Felly mae'n bwysig ein bod ni'n addysgu cymaint ag y gallwn ni nad oes unrhyw le i hiliaeth mewn pêl-droed na'r gymdeithas yn gyffredinol.

"Dw i wedi profi ymddygiad ymosodol yn y rhan fwyaf o wledydd dw i wedi ymweld â nhw, Serbia, Montenegro, Yr Eidal neu Sbaen."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.