Buddsoddi £44m yn ffyrdd Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cytuno i fuddsoddi £44 miliwn yn ffyrdd a llwybrau'r ddinas dros y pum mlynedd nesaf.

Fe wnaeth Pwyllgor Gweithredol y Cyngor gymeradwyo'r cynlluniau ddydd Iau.

Dywedodd Cyngor Caerdydd bod gwaith cynnal a chadw'r strwythur ffyrdd yn "anferthol".

Mae'r ddau aeaf diwethaf hefyd wedi rhoi pwysau ar y ffyrdd gyda'r tywydd oer yn creu difrod sylweddol.

"Mae Cyngor Caerdydd yn dangos addewid ariannol sylweddol i ddelio gyda'r hyn sydd wedi bod yn broblem ar hyd y DU," meddai'r cynghorydd sydd â chyfrifoldeb am ffyrdd, Lisa Ford.

"Rydym wedi asesu ein ffyrdd a'n llwybrau ac wedi gweld ffordd ymlaen a fydd yn elwa holl drigolion y ddinas yn ogystal â'r ymwelwyr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol