Mark Williams yn cael ei guro gan Ronnie O'Sullivan
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Stevens yn herio'r Albanwr Stephen Maguire yn yr ail rownd
Mae'r cyn-bencampwr byd, Mark Williams, allan o Bencampwriaeth Snwcer Agored Cymru.
Collodd y gŵr o Cwm ym Mlaenau Gwent o bedair ffrâm i un yn erbyn y cyn-bencampwr byd Ronnie O'Sullivan.
Dyma oedd ail rownd y bencampwriaeth sy'n cael ei chynnal yng Nghasnewydd.
Matthew Stevens yw'r unig Gymro sydd ar ôl yn y bencampwriaeth a ddaw i ben dros y penwythnos.
Mae Stevens yn wynebu Stephen Maguire.
Canlyniadau'r Cymry:
Rownd 1
Ryan Day 0-4 Michael Holt (Dydd Llun)
Dominic Dale 2-4 Sam Baird (Dydd Llun)
Mark Williams 4-3 Andy Hicks (Dydd Mawrth)
Matthew Stevens4-3 Barry Hawkins (Dydd Mercher)
Rownd 2
Mark Williams1-4 Ronnie O'Sullivan (Dydd Iau)
Matthew Stevensv Stephen Maguire (Dydd Iau)
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol