Robbie Savage y tu ôl i gais i godi gwesty yn Sir Gâr

Robbie Savage Image copyright AP
Image caption Robbie Savage yn troi ei olygon at fod yn berchen gwesty

Mae cyn-bêl-droediwr Cymru Robbie Savage yn gobeithio camu i'r busnes gwestai.

Mae o a'i bartner busnes yn gyfrifol am gynlluniau ar gyfer datblygiad ger cwrs rasio Ffos Las yn Sir Gaerfyrddin.

Derbyniodd y cyngor lleol amlinelliad o gais cynllunio ar gyfer gwesty 35 ystafell a bwyty.

Fe allai adnoddau chwaraeon, fel pêl-droed, gael eu hadeiladu ar y safle 20 erw ger Trimsaran.

Ar gyfer y prosiect mae Savage, a anwyd yn Wrecsam, wedi uno gyda'r gŵr buses o Lanelli, Tony Quaglia.

Mae'r ddau yn gyfeillion ers i Mr Quaglia fod yn aelod o staff tîm Cymru o dan y cyn-reolwr Mark Hughes a Savage yn aelod cyson o'r garfan.

Partner yng nghwmni Owen Banks Planning and Development, Stuart Owen, sy'n delio gyda'r cais.

"Mae Robbie wrth ei fodd gyda'r ardal ac yn gweld potential," meddai Mr Owen.

'Perchnogaeth'

"Mae Robbie eisiau parhau gyda'r syniad o westy.

"Nid yn unig y ddelwedd sy'n bwysig iddo ond mae'r elfen o berchnogaeth yn bwysig iddo hefyd ."

Ychwanegodd Mr Owen bod lleoliad y trac rasio yn ffactor allweddol wrth ddewis y safle.

"Ond allwch chi ddim cynnal gwesty ar 26 niwrnod o rasio'r flwyddyn yn unig," meddai Mr Owen.

"Maen nhw hefyd yn edrych ar yr elfen dwristiaeth a'r cysylltiad gyda Pharc Gwledig Penbre."

Ychwanegodd bod 'na lawer o syniadau ganddyn nhw gan gynnwys gwersyll pêl-droed."

Credir y bydd yn cymryd rhai misoedd cyn i'r cais gael ei drafod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin.

Yn ogystal â'r cais cynllunio mae'r partneriaid wedi cyflwyno adroddiadau yn trafod materion amgylcheddol, cadwraeth a ffyrdd.

"Mae'r cyfarfodydd cyn cyflwyno cais cynllunio wedi bod yn bositif iawn," ychwanegodd Mr Owen.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.