Matthew Stevens yn methu camu ymlaen yn y bencampwriaeth
- Cyhoeddwyd

Colli wnaeth Matthew Stevens yn erbyn yr Albanwr Stephen Maguire yn yr ail rownd
Does 'na ddim Cymri ar ôl ym Mhencampwriaeth Snwcer Agored Cymru.
Prynhawn Iau colli wnaeth Matthew Stevens o ddwy ffrâm i bedair yn erbyn yr Albanwr Stephen Maguire.
Yn gynharach collodd y cyn-bencampwr byd o Cwm ym Mlaenau Gwent, Mark Williams o bedair ffrâm i un yn erbyn y cyn-bencampwr byd Ronnie O'Sullivan.
Roedd Stevens a Williams yn chwarae yn ail rownd y bencampwriaeth sy'n cael ei chynnal yng Nghasnewydd.
Canlyniadau'r Cymry:
Rownd 1
Ryan Day 0-4 Michael Holt (Dydd Llun)
Dominic Dale 2-4 Sam Baird (Dydd Llun)
Mark Williams 4-3 Andy Hicks (Dydd Mawrth)
Matthew Stevens4-3 Barry Hawkins (Dydd Mercher)
Rownd 2
Mark Williams1-4 Ronnie O'Sullivan (Dydd Iau)
Matthew Stevens 2-4 Stephen Maguire (Dydd Iau)
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol