'Angen mwy o dreth blismona'

Car heddlu Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Cytunodd Dyfed-Powys i gynnydd o 5%

Mae heddluoedd Cymru am i drethdalwyr dalu mwy o arian ar gyfer plismona yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Roedd Awdurdodau Heddlu Dyfed-Powys, Gwent a Gogledd Cymru yn penderfynu eu cyfran o dreth y cyngor ddydd Gwener.

Cytunodd Dyfed-Powys i gynnydd o 5% tra chytunodd Gwent i gynnydd o 2.7%. Y cynnydd ar gyfer Gogledd Cymru yw 2.5%.

Eisoes roedd Awdurdod Heddlu De Cymru wedi cymeradwyo codiad o 5%.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Mark Polin, y byddai'n rhaid i'r llu dorri £900,000 yn ychwanegol o'u cyllideb yn dilyn penderfyniad Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru.

Ychwanegodd ei fod yn siomedig bod yr awdurdod wedi gwyro o'r "strategaeth arianol a gytunwyd arni".

"Rwy'n deall ei fod yn benderfyniad anodd i'r awdurdod heddlu heddiw," meddai Mr Polin.

"Bydd y penderfyniad yn golygu y bydd yn rhaid i'r llu dorri £900,000 yn ychwanegol o'u cyllideb bob blwyddyn.

"Yn awr fe fyddwn ni'n ystyried sut y gallwn ni ddod o hyd i'r arian."

Yn y de bydd cyfran treth y cyngor yn codi dwy geiniog y dydd i gyfanswm blynyddol o £169.42 ar gyfer cartref Band D yn 2012-13.

'Priodas boenus'

Mae un o gyn-uwchswyddogion Heddlu'r Gogledd, Clive Wolfendale, wedi dweud bod modd gwneud arbedion drwy uno'r heddluoedd.

"Byddai'n briodas boenus ond fe allai ddigwydd os ydym am wneud mwy o arbedion", meddai Mr Wolfendale, cyn-brif gwnstabl dros dro.

"Pe baech yn sefydlu un heddlu ar gyfer Cymru gyfan, byddai'n debyg mewn maint i heddluoedd mawr Lloegr."

Roedd y Swyddfa Gartref am greu un heddlu ar gyfer Cymru gyfan yn 2006 drwy leihau nifer yr heddluoedd yng Nghymru a Lloegr o 43 i 24.

Ond penderfynodd y llywodraeth roi'r gorau i'r cynlluniau oherwydd ffrae am y gost derfynol.

Rhybudd

Cyn y cyfarfod roedd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio y gallai'r llu wynebu colli swyddi, gorsafoedd a'u hofrennydd os na fydden nhw'n derbyn cynnydd o 5% o leia' o ran cyfran treth cyngor.

Yn ôl Ian Arundale, roedd angen y cynnydd er mwyn cydbwyso'r 20% o doriadau gan Lywodraeth y DU yn hytrach nag er mwyn tyfu.

"Dydw i ddim yn codi bwganod, dim ond poeni'n wirioneddol sut y gallwn ni amddiffyn ein cymunedau'n effeithiol ac erlyn troseddwyr os oes rhaid i ni dorri lawr mwy nag yr ydym ni'n barod," meddai.

"Mae'r argyfwng cyllid yn drobwynt llwyr i blismona yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.

"Dyna pam fy mod i'n apelio i gael codiad o 5% fel ein bod ni'n gallu parhau i ddiogelu ein cymunedau."

Straeon perthnasol