Troi stiwdio deledu'n ganolfan ddringo

  • Cyhoeddwyd
Adeilad Stiwdio BarcudFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Fe aeth cwmni Barcud Derwen i ddwylo'r gweinyddwyr a daeth i ben yn 2010

Mae cwmni canolfan ddringo wedi llwyddo i brynu hen adeilad stiwdio deledu yng Nghaernarfon.

Cwmni Beacon Climbing Centre ydi perchnogion newydd adeilad stiwdio Barcud ar Stad Cibyn yng Nghaernarfon.

Fe fydd y cwmni yn mynd ati yn syth i addasu'r adeilad yn ganolfan ddringo newydd.

Fe aeth cwmni Barcud Derwen i ddwylo'r gweinyddwyr a daeth i ben yn 2010.

Ers hynny mae'r adeilad wedi bod yn wag.

Mae peth difrod wedi bod i'r adeilad.

Ond mae Beacon Climbing Center yn gobeithio rhoi bywyd newydd i'r lle.

Adeilad addas

"Roedd y newyddion bod cwmni Barcud Derwen wedi dod i ben yn sioc i'r ardal ac fe gollwyd nifer o swyddi," meddai cyfarwyddwr Beacon Climbing Center, Gill Lovick.

"Ond roedd 'na obaith gan ei fod yn adeilad addas ar gyfer codi wal ddringo o dan do, yn adeilad uchel, modern ac yn hawdd ei gyrraedd.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bydd wal newydd CrazyClimb yn y ganolfan newydd, y cyntaf yn y DU

"Roedd hefyd ar gael ar yr amser cywir i ni fel cwmni."

Ond dywedodd bod y broses gyfreithiol i brynu'r adeilad wedi cymryd amser a bod fandaliaid wedi cael modd i fyw â'r lle.

"Oherwydd, bu'n rhaid i ni ail drafod y pryniant," ychwanegodd.

Mae'r datblygiad yn elwa o grant gan Gynllun Cymorth Buddsoddi Mewn Twristiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae canolfan bresenol Beacon yn hen adeilad Marconi yng Ngheunant ger Waunfawr a agorwyd yn 1994.

"Rydym wedi aros am gyfnod hir iawn ac yn edrych ymlaen," ychwanegodd Ms Lovick.

"Rydym wedi cael busnes llwyddiannus dros yr 17 mlynedd diwethaf ac wedi gweld y plant yn tyfu, rhai i fod yn hyfforddwyr gyda ni.

"Ond roedd yr adeilad yn hen ac roedd hi'n bryd i ni symud ymlaen."

Y disgwyl yw y bydd y ganolfan ddringo newydd yn agor yn ddiweddarach eleni.

Tan hynny fe fydd canolfan Ceunant yn parhau ar agor cyn cau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol