BBC Cymru Fyw

Arestio dyn wedi gwrthdrawiad fan a thrên ger Llanbrynmair

Published
image copyrightOther
image captionCafodd y gyrrwr ei ryddhau o'r fan ar ôl y gwrthdrawiad
Mae dyn 35 oed o Groesoswallt wedi ei arestio ar amheuaeth o beryglu diogelwch ar y rheilffordd wedi gwrthdrawiad rhwng fan a thrên.
Fe gafodd y dyn ei ryddhau ar fechnïaeth tan Fawrth 21.
Dydd Iau aed â gyrrwr fan i'r ysbyty gydag anafiadau i'w frest a'i wddf wedi'r gwrthdrawiad ar Groesffordd Pikins ger Llanbrynmair am 12.35pm.
Y trên oedd un Arriva Cymru 10.09am o Birmingham i Aberystwyth.

Disel

Bu'r cledrau ar gau tan 3.40pm a gwasanaeth bws yn cludo teithwyr trên rhwng Yr Amwythig a Machynlleth.
Roedd pedair injan dân, dwy o'r Drenewydd, un o Fachynlleth ac un o Lanidloes, wedi cael eu hanfon.
Bu'r diffoddwyr yn delio gydag olew disel wedi ei ollwng.