BBC Cymru Fyw

Artisitiad i berfformio yng ngêm goffa Gary Speed

Published
image copyrightOther
image captionSuper Furry Animals, Bryn Terfel ac Only Men Aloud fydd rhai o'r artisitaid yn y gêm deyrnged i Gary Speed

Fe fydd 'na nifer o artistiaid cerddorol yn cymryd rhan cyn gêm goffa Gary Speed yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddiwrnod ola' mis Chwefror.

Ymhlith yr artistiaid y mae Super Furry Animals, Bryn Terfel ac Only Men Aloud.

Bydd Mike Peters a Courtenay Hamilton hefyd yn cymryd rhan.

Eisoes mae 15,000 o docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Costa Rica ar Chwefror 29.

Don o anghrediniaeth

Yn erbyn Costa Rica yr enillodd Speed, cyn-reolwr Cymru, ei gap rhyngwladol cyntaf.

Cafwyd hyd i gorff y pêl-droediwr 42 oed yn ei gartref ar Dachwedd 27.

Dywedodd crwner ddiwedd mis Ionawr na allai gasglu a oedd ei farwolaeth yn fwriadol neu'n ddamweiniol.

Bwriad Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yw bod y gêm yn "ddathliad o fywyd Gary Speed".

Wedi'r cyhoeddiad am ei farwolaeth roedd 'na don o anghrediniaeth a miloedd yn tyrru i wahanol stadiwm pêl-droed lle chwaraeodd y Cymro o Sir y Fflint.

Bu'n chwarae i Leeds, Newcastle, Everton a Bolton cyn symud i reoli Sheffield United a Chymru.

Straeon perthnasol

  • Cwest: 'Damwain o bosib'