BBC Cymru Fyw

Cytundeb yn arwain cwmni Cobra i symud ffatri i Wrecsam

Published
image copyrightOther
image captionDywed Cobra UK eu bod yn "siomedig" i adael Y Trallwng
Mae cwmni cydrannau ceir yn bwriadu cau eu ffatri ym Mhowys a symud y gwaith i ffatri newydd yn Wrecsam ar ôl ennill cytundeb gwerth £12 miliwn gyda General Motors.
Mae'r 49 o staff yn Y Trallwng wedi cael cynnig swyddi yn y ffatri yn Wrecsam a agorodd yn gynharach eleni.
Llwyddodd y cwmni i ennill cytundeb i ddarparu darnau ar gyfer y tu mewn i geir newydd Vauxhall Astra.
Ymhlith cwsmeriaid eraill Cobra y mae Bentley, Audi a Volvo.
Mae gan y cwmni adeilad 70,000 troedfedd sgwâr ar Stad ddiwydiannol Wrecsam.

Teithio i Wrecsam

"Mae'r holl staff yn Y Trallwng wedi cael cynnig gwaith ar y safle yn Wrecsam," meddai rheolwr gyfarwyddwr Cobra UK, Gary Seale.
"Mae tua 50% o'n gweithwyr eisoes yn teithio o ardal Y Trallwng i Wrecsam.
"Roeddem angen safle mwy ac yn anffodus doedd dim byd yn ardal Y Trallwng ar ein cyfer.
"Mae symud i Wrecsam yn golygu ein bod yn aros yng Nghymru ac yn nes at General Motors a Bentley, ein cwsmeriaid mwyaf."
Ychwanegodd eu bod eisoes wedi gwneud cais i ddyblu maint y ffatri.
Yn gynharach yn yr wythnos, rhybuddiodd cwmni cydrannau ceir Shimizu UK, sydd hefyd yn Y Trallwng, am ddiswyddiadau posib.
Maen nhw eisoes wedi anfon eu holl staff dros dro adref ac maen nhw wedi cyhoeddi flwyddyn yn ôl y bydd 30 o weithwyr llawn amser yn cael eu diswyddo.

Straeon perthnasol

  • 50 o swyddi newydd i Wrecsam