Carchar i wraig o Gaerdydd am dwyll budd-daliadau

  • Cyhoeddwyd

Yn Llys y Goron Caerdydd cafodd dynes ei charcharu am wneud cais am fudd-daliadau tra bod ganddi gynilion o £180,000.

Roedd y fam i chwech, Helen Ryan, 40 oed o Dredelerch, wedi derbyn dros £96,000 o arian y trethdalwyr pan oedd yn trosglwyddo arian rhwng naw cyfri banc.

Fe blediodd yn euog i saith cyhuddiad o dwyll. Cynigiodd hi ad-dalu'r arian ond cafodd ei charcharu am 24 wythnos.

"Dros gyfnod o 10 mlynedd fe wnaethoch chi dderbyn £96,479 o arian y trethdalwyr drwy dwyll," meddai'r barnwr David Wynn Morgan.

"Does 'na ddim eglurhad derbyniol wedi ei roi.

"Mae'r cyhuddiadau mor ddifrodol fel bod rhaid eich carcharu."

Clywodd y llys fod y ddynes ddi-waith wedi cadw arian ar gyfer y plant pan fydden nhw'n hŷn.

Dywedodd Peter Davies, ei bargyfreithiwr, ei bod hi'n dilyn traddodiad cymuned y teithwyr.

Mae Ryan yn byw mewn tŷ ar rent gyda thri o'i phlant ieuengaf, 17 oed, 13 oed a 10 oed, tra bod ei phartner, Thomas Jack Jim Price, yn byw mewn carafán ar safle teithwyr gerllaw.

£50,000

Clywodd y rheithgor fod Ryan wedi hawlio £88,000 o gymhorthdal incwm a £8,000 o Fudd-dal Treth y Cyngor.

Ond doedd hi ddim yn gymwys ar gyfer budd-daliadau am fod ganddi dros £12,000 o gynilion.

Yn ôl manylion ei chyfrifon banc, roedd ganddi £50,000 yn 2003, ddwy flynedd ar ôl dechrau gwneud ceisiadau ffug.

Ond clywodd y llys bod y swm wedi codi i £184,000 pan oedd yr ymchwiliad ar y gweill.

Dywedodd hi mai enillion gamblo ei brawd oedd yr arian.

Ond doedd ei brawd, James Ryan, ddim yn wybyddus i'r bwcis na chyrsiau rasio.

"Roedd ganddi swm sylweddol o arian ac roedd hi eisiau ei guddio," meddai'r erlynydd Carl Harrison.

Celwydd

"Fe wnaeth hi gymryd camau sylweddol i guddio'r cyfrifon banc."

Clywodd y llys fod tri chyfri yn ei henw hi a'r chwech arall yn enwau'r plant.

Roedd hi hefyd wedi dweud celwydd am ei chyfeiriad er mwyn agor cyfrifon gyda'r HSBC a'r Principality.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Waith a Phensiynau fod achosion o'r fath yn costio £1 biliwn i'r trethdalwyr bob blwyddyn.

"Bwriad yr adran yw helpu'r rhai anghenus nid llenwi pocedi troseddwyr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol