Cynhadledd i daclo problem chwyn mewn afonydd
- Published
Mae cynhadledd wedi edrych ar broblem chwyn goresgynnol a'u heffaith ar afonydd.
Canolbwyntiwyd ar dri math o chwyn, sef clymog Japan, jac y neidiwr ac efwr enfawr.
Yr Ymddiriedolaethau Afonydd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru wnaeth cynnal y gynhadledd ym Mharc Beaufort, ger Yr Wyddgrug, .
Meddai Phil Jones o Ymddiriedolaeth yr Afon Dyfrdwy mewn cyfweliad ar BBC Radio Cymru: "Maen nhw'n broblem anferth ar y Dyfrdwy a llawer o afonydd Cymru ar hyn o bryd.
"Ers rhyw ddwy neu dair blynedd rydyn ni'n gweld nhw'n cynyddu'n ofnadwy.
"Os na gawn ni afael arnyn nhw a'u lladd nhw maen nhw'n mynd i ddinistrio llawer o'r planhigion sydd yma'n barod ac ochrau'r afon."
Mae'r chwyn hefyd yn broblem yn Afon Clwyd ac Afon Conwy ac mae'r Ymddiriedolaethau'n cydweithio ar raglen i gael gwared ohonynt.
Gall y chwyn ymledu'n gyflym dros ben gan fygu bywyd gwyllt brodorol.
Taflu cysgod
Mae jac y neidiwr ac efwr enfawr, er enghraifft, yn taflu cysgod dros blodau gwyllt brodorol a'r pryfetach sy'n dibynnu arnyn nhw.
Cafodd y gynhadledd ei noddi gan y Cyngor Cefn Gwlad, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Natural England a'r awdurdodau lleol o fewn y dalgylch.
Nod y gynhadledd oedd rhoi dull systematig ar waith, ynghyd â hyfforddiant effeithiol, fel y gellir mynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol.
Cyn y gynhadledd, dywedodd Richard Lucas o'r Welsh Dee Trust: "Hyd yn hyn rydym wedi hyfforddi 28 o wirfoddolwyr sydd wedi'u hachredu i ddefnyddio chwynladdwyr ger systemau dŵr.
"Ond ein gobaith yw y bydd y gynhadledd yn ein galluogi i rannu arferion gorau ac annog llawer mwy i gymryd rhan."