Galw am safleoedd i deithwyr a sipsiwn yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae sipsiwn a theithwyr am i Gyngor Casnewydd greu safleoedd teuluol bychan swyddogol i helpu eu cymuned.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynghori pob awdurdod lleol i asesu anghenion sipsiwn a theithwyr o ran tai a darparu safleoedd lle bo angen.
Mae gan Gasnewydd y nifer uchaf o wersylloedd anghyfreithlon yng Nghymru.
Yn 2009 roedd 28 allan o 30 carafán yng Nghasnewydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon a gall y gost o lanhau safleoedd fod yn gannoedd o filiynau o bunnoedd.
'Adeiladu tai'
Mae Cyngor Casnewydd wedi clustnodi Bwthyn y Goeden Ywen ger Ystâd Bettws fel un o bum safle posib ar gyfer sipsiwn a theithwyr yn y ddinas.
Mae cryn wrthwynebiad i'r cynnig.
Ond mae teithwyr sy'n byw yn yr ardal yn honni mai safleoedd teuluol bychan swyddogol yw'r syniad gorau.
Mae rhaglen radio BBC Cymru 'Eye on Wales' wedi dod a chynrychiolwyr o'r ddwy ochr at ei gilydd i drafod y mater.
Dywedodd Tracey Collett, sy'n arwain yr ymgyrch 'Na': "Mae ein hystâd yn dlawd iawn a dydyn ni ddim yn meddwl ei fod yn deg bod arian yn cael ei wario ar un neu ddau deulu pan mae ein hystâd yn dirywio'n arw.
"Mae llawer o bobl yn methu cael tai.
"Mae pensiynwr ar yr ystâd yn methu fforddio troi ei gwres ymlaen. Dylai'r arian gael ei wario ar adeiladu tai."
Bydd teulu teithiwr lleol, Bobby Hendry, yn elwa o un o'r safleoedd.
Mae'n meddwl bydd yr arian yn helpu lleddfu rhai o'r problemau mae ei deulu wedi wynebu.
'Safleoedd priodol'
"Ni fydd y mater yn mynd i ffwrdd oherwydd ni fydd teithwyr yn mynd i ffwrdd.
"Felly os na fydd y safleoedd yn cael eu hadeiladu fe ddaw pethau i'r pen."
Ni fydd penderfyniad ynghylch Bwthyn y Goeden Ywen a'r cynigion eraill am sawl mis.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Matthew Evans: "Mae hwn yn bwnc emosiynol iawn ac mae'n anodd mynd i'r afael ag e ar lefel gwleidyddol.
"Byddai pryderon yn cael eu lleisio pe bai'r safle 15 milltir o bob man.
"Mae'n rhaid inni fod yn agored gyda'r preswylwyr ond mae'n rhaid i ni ddarganfod safleoedd priodol."
Ychwanegodd fod nifer o fuddiannau yn perthyn i safleoedd swyddogol parhaol.
"Ar hyn o bryd mae gennym filiau sylweddol am lanhau ar ôl i deithwyr adael safleoedd ac mae gennym broblemau cyfreithiol a'r problemau o gymryd camau gorfodi i symud teithwyr.
"Un o fuddion cael safle parhaol yw y byddan nhw'n talu treth y cyngor, rhent a phopeth arall."
Bydd Eye On Wales yn cael ei darlledu Ddydd Sul Chwefror 19 am 1pm ar BBC Radio Wales ac fe fydd ar gael ar iPlayer yn dilyn y rhaglen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd29 Medi 2011
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2005