Noson gymysg i glybiau Cymru yn y RaboDirect Pro12

Gavin Henson yn cael ei daclo gan Ruan Pienaar Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gavin Henson yn cael ei daclo gan Ruan Pienaar

Fe wnaeth Gleision Caerdydd rhoi hwb i'w gobeithion o gyrraedd gemau ail gyfle'r Pro12 ar ôl iddyn nhw frwydro nôl i faeddu Ulster ym Mharc yr Arfau.

Dyma oedd eu hail fuddugoliaeth yn olynol yn ôl yn eu hen gartref.

Roedd yr ymwelwyr 8-0 ar y blaen diolch i gic gosb Ruan Pienaar a chais Robbie Diack.

Dwy gic gosb gan Dan Parks roddodd obaith i'r Gleision yn yr hanner cyntaf.

Ceisiau gan Parks a Tom James a throsiad a chic gosb Parks sicrhaodd y fuddugoliaeth.

Gleision: Ben Blair; Richard Mustoe, Gavin Evans, Gavin Henson, Tom James; Dan Parks, Lloyd Williams; John Yapp, Ryan Tyrell, Scott Andrews, Cory Hill, Paul Tito (capt), Michael Paterson, Martyn Williams, Xavier Rush.

Eilyddion: T Rhys Thomas, Nathan Trevett, Ryan Harford, Maama Molitika, Macauley Cook, Richie Rees, Ceri Sweeney, Chris Czekaj.

Ulster: S Terblanche; C Gilroy, N Spence, P Wallace, I Whitten; I Humphreys, R Pienaar; T Court, N Brady, J Afoa, L Stevenson, D Tuohy, C Henry (capt), W Faloon, R Diack.

Eilyddion: A Kyriacou, P McAllister, A Macklin, T Barker, M McComish, P Marshall, S Danielli, A D'Arcy.

Dyfarnwr: George Clancy (IRFU)

Gweilch 23-7 Aironi

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mauro Bergamasco yn taclo canolwr y Gweilch Andrew Bishop

Cafodd y Gweilch fuddugoliaeth gyfforddus yng ngêm gyntaf Steve Tandy wrth y llyw fel prif hyfforddwr yn Stadiwm Liberty.

Sicrhawyd y fuddugoliaeth gyda dwy gais - un yn gais cosb a'r llall gan y canolwr Andrew Bishop.

Daeth pwyntiau eraill y Gweilch gan Dan Biggar - tair cic gosb a throsiad - a dau bwynt gan Matthew Morgan.

Cais gan yr asgellwr Sinoti Sinoti, a droswyd, oedd unig bwyntiau Aironi.

Gweilch: Richard Fussell; Hanno Dirkson, Andrew Bishop, Ashley Beck, Eli Walker, Dan Biggar, Rhys Webb, Ryan Bevington, Richard Hibbard, Joe Rees, James King, Alun Wyn Jones (capt), Tom Smith, Sam Lewis, Joe Bearman.

Aironi: Benatti, Toniolatti, G. Pavan, Pizarro, Sinoti, Olivier, Tebaldi, Aguero, Santamaria, Romano, Furno, Del Fava, Cattina, Bergamasco, Favaro.

Dyfarnwr: Marius Mitrea (Eidal).

Leinster 16-13 Scarlets

Image copyright bbc
Image caption Fionn Carr yn taclo Liam Williams

Cic gosb hwyr gan Fergus McFadden sicrhaodd fuddugoliaeth i Leinster dros y Scarlets yn Stadiwm yr RD.

Roedd Stephen Jones a McFadden ill dau wedi llwyddo gyda chiciau cosb cyn i gais Dan Newton a throsiad olygu fod y Scarlets ar y blaen 10-3 ar yr egwyl.

Sgoriodd McFadden gais ym munud agoriadol yr ail hanner a daeth Leinster yn gyfartal gyda'r trosiad.

Aeth y Scarlets nôl ar y blaen gyda chic gosb Newton cyn i McFadden ychwanegu dwy gic gosb arall i dorri calonnau'r Cymry.

Leinster: I Nacewa, D Kearney, E O'Malley, F McFadden, F Carr, I Madigan, E Reddan, J McGrath, S Cronin, J Hagan, D Browne, D Toner, K McLaughlin (cpt), S Jennings, R Ruddock.

Eilyddion: R Strauss, H van der Merwe, N White, L Auva'a, D Ryan, I Boss, N Reid, B Macken.

Scarlets: Dan Newton; Liam Williams, Gareth Maule (capt), Scott Williams, Andy Fenby; Stephen Jones, Gareth Davies; Rhodri Jones, Emyr Phillips, Deacon Manu, Sione Timani, Dominic Day, Josh Turnbull, Johnathan Edwards, Kieran Murphy.

Eilyddion: Craig Hawkins, Phil John, Peter Edwards, Damian Welch, Ben Morgan, Liam Davies, Adam Warren, Viliame Iongi.

Dyfarnwr: Nigel Owens