Ding Junhui yn ennill Pencampwriaeth Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Ding Junhui wedi cipio Pencampwriaeth Agored Snwcer Cymru ar ôl iddo guro Mark Selby 9-6 yng Nghasnewydd nos Sul.
Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Ding mewn pencampwriaeth y tymor hwn gan sicrhau siec o £30,000 am ennill y gystadleuaeth.
Ar ddiwedd y sesiwn gyntaf ddydd Sul roedd Ding ar y blaen o 5 ffrâm i 3.
Er hynny Selby gafodd y rhediadau gorau gyda 103 a 124 yn y pedair ffrâm gyntaf.
Cafodd 4 ffrâm gyntaf ail sesiwn y rownd derfynol eu rhannu cyn i Ding fynd 8-5 ar y blaen ar ôl rhediad o 130.
Tarodd Selby yn ôl yn y ffrâm nesaf gan glirio'r bwrdd â rhediad gorau'r gystadleuaeth (145).
Ond Ding a enillodd y ffrâm nesaf i gipio'r bencampwriaeth am y tro cyntaf.
Mae o'n gyn-enillydd Pencampwriaeth y Meistri a'r DU.
Fe enillodd Selby Bencampwriaeth Cymru yn 2008.
Straeon perthnasol
- 19 Chwefror 2012
- 16 Chwefror 2012
- 16 Chwefror 2012
- 15 Chwefror 2012
- 14 Chwefror 2012