Norofirws yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg
- Cyhoeddwyd

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn ymateb i sawl achos o'r salwch stumog, norofirws, yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Mae saith ward wedi eu heffeithio ac wedi cau am gyfnod yno.
Mae 'na gais i'r cyhoedd i beidio ag ymweld â'r ysbyty os yn bosib.
Dywedodd y bwrdd iechyd bod mesurau mewn grym i leihau'r risg i gleifion.
Daw hyn wedi achosion o'r salwch mewn ysbytai yng ngogledd a gorllewin Cymru yn gynharach yn yr wythnos.
Gall y firws ledu'n hawdd o un unigolyn i un arall ac mae'n achosi teimlo'n gyfoglyd yn sydyn, poen stumog ac yna chwydu "hyrddiol" drwg a neu ddolur rhydd.
Efallai hefyd y bydd ychydig o wres, cur pen, cramp yn y stumog a breichiau a choesau poenus.
Er nad ydi'r salwch yn un difrifol gan fod cleifion ysbyty yn wan beth bynnag gall fod yn fwy peryglus.
Dywedodd y bwrdd iechyd na ddylai aelodau'r cyhoedd ymweld â'r ysbyty oni bai ei fod yn argyfwng ac i beidio mynd yno os ydyn nhw wedi diodde' o salwch stumog neu ddolur rhydd dros y 2-3 diwrnod diwethaf.
Y cyngor i unrhyw un sy'n diodde' o'r symptomau yw peidio ymweld â'r adran frys ond i gysylltu gyda'r meddyg teulu.
Fe ddylai unrhyw ymwelydd olchi eu dwylo gyda dŵr a sebon wrth fynd i mewn ac allan o unrhyw ward.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2011