BBC Cymru Fyw

Buddugoliaeth i 10 dyn Y Seintiau Newydd

Published
image copyrightNot Specified

Wedi buddugoliaeth oddi cartref mae'r Seintiau Newydd wedi agosáu at Fangor sydd ar frig y tabl gyda phwynt yn unig yn gwahanu'r ddau dîm.

Roedd y Seintiau wedi teithio i Lanelli ac fe ddaeth dwy gôl y gêm i'r ymwelwyr yn yr ail hanner a hynny gyda 10 dyn.

Cafodd Connell Rawlinson ei anfon oddi ar y cae wedi 51 munud ar ôl derbyn cerdyn coch.

Greg Draper gafodd gôl gyntaf y Seintiau wedi 49 munud cyn i Aeron Edwards ganfod y rhwyd wedi 63 munud.

Cafodd Castell-nedd fuddugoliaeth adref yn erbyn Prestatyn o gôl i ddim.

Daeth yr unig gul i Kai Edwards wedi 73 munud.

Rhwyd ei hun

Y ddwy gêm arall gafodd ei chwarae ddydd Sadwrn oedd rhai yn ail hanner y tabl.

Fe gafwyd buddugoliaeth i Gaerfyrddin wrth i Dan Macdonald sgorio wedi naw munud yn unig ym Mharc Waun Dew yn erbyn Airbus.

A gêm gyfartal gafwyd ym Mharc Latham rhwng Y Drenewydd a Lido Afan.

Fe rwydodd Craig Hanford i'w rwyd ei hun wedi 39 munud i roi mantais i'r tîm cartref.

Ond daeth yn gyfartal wedi 79 munud gydag ergyd Leone Jeanne.

Nos Wener yng Nghoedlan y Parc cafwyd gêm gyfartal wrth i Bort Talbot deithio i Aberystwyth.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi 16 munud wrth i Richard Greaves rwydo.

Daeth y tîm cartref yn ôl yn yr ail hanner wrth i Josh Shaw sgorio wedi 66 munud.

Derbyniodd pedwar o chwaraewyr Port Talbot gerdyn melyn wrth i un o Aberystwyth gael ei enw yn llyfr y dyfarnwr.

Bydd Bangor, sydd ar frig y tabl, yn teithio i'r Bala ddydd Sul.

Canlyniadau:

Nos Wener:

Aberystwyth 1-1 Port Talbot

Dydd Sadwrn:

Caerfyrddin 1-0 Airbus

Castell-nedd 1-0 Prestatyn

Y Drenewydd 1-1 Lido Afan

Llanelli 0-2 Y Seintiau Newydd

Dydd Sul:

Bala v Bangor

Chwefror 18 2012