BBC Cymru Fyw

Buddugoliaeth i Wrecsam a Chasnewydd

Published
image copyrightbbc

Wrecsam 4-1 Hayes & Yeading

Cafodd Wrecsam fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Hayes & Yeading sydd un yn uwch na gwaelod y tabl.

Ond doedd y fuddugoliaeth ddim yn ddigon i'r Dreigiau godi yn ôl i frig y gynghrair wrth i Fleetwood gael buddugoliaeth hefyd.

Mae Wrecsam ddau bwynt y tu ôl i'r tîm sydd ar y brig.

Ond roedd chwaraewr-reolwr Wrecsam, Andy Morrell, yn anhapus ar ôl iddo fethu sawl cyfle.

Ond llwyddodd Jake Speight, Mark Creighton, Jay Harris a Mathias Pogba i sicrhau buddugoliaeth ar y Cae Ras.

Fe ddaeth yr ymwelwyr yn ôl yn y munudau olaf gyda gôl gysur i Michael Thalassitis.

Casnewydd 1-0 Mansfield

Er gwaethaf eu buddugoliaeth mae Casnewydd wedi gostwng un safle yn y tabl.

Roedd gôl Sam Foley yn yr hanner cyntaf yn ddigon i Gasnewydd ennill a cheisio codi o waelodion y tabl.

Dyma bumed buddugoliaeth Casnewydd mewn chwe gêm.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE

Chwefror 18 2011