Caerdydd yn colli o 3-0 yn Ipswich
- Cyhoeddwyd

Ipswich 3-0 Caerdydd
Roedd dwy gôl gan Lee Martin ac un gan gyn-chwaraewr Caerdydd, Michael Chopra, yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth am y pedwerydd tro yn olynol i Ipswich.
Dyma hefyd oedd y trydydd tro mewn pedair gêm i Gaerdydd golli.
Doedd hyn ddim y paratoad gorau i'r Adar Gleision a fydd yn wynebu Lerpwl yn rownd derfynol Cwpan Carling yn Wembley ar Chwefror 26.
Dyma oedd cweir mwya' Caerdydd y tymor yma.
Fe ddylai'r tîm cartref fod wedi bod lawr i 10 dyn wedi i golwr Ipswich, Arran Lee-Barrett weld cerdyn melyn wedi 8 munud am faglu Joe Mason.
Fe ddylai fod wedi cael cerdyn coch gan y dyfarnwr ac o bosib fe allai'r gêm fod wedi bod yn wahanol.
Ond roedd y canlyniad yn un teg am na wnaeth Caerdydd ddigon i rwystro'r goliau.
Roedd Ipswich ar y blaen o gôl i ddim ar yr egwyl wedi ergyd Martin wedi 21 munud.
Ond ychydig funudau wedi cychwyn yr ail hanner llwyddodd Chopra i ganfod cefn y rhwyd.
Daeth yr ergyd olaf gan Martin wedi 72 munud.
TABL Y BENCAMPWRIAETH
Chwefror 18 2011