Buddugoliaeth i'r Dreigiau yn erbyn Caeredin
- Published
Dreigiau Gwent 21-10 Caeredin
Yn ei 100fed gêm dros ranbarth Dreigiau Gwent cafodd yr asgellwr rhyngwladol Aled Brew gais allweddol ym muddugoliaeth y tîm cartref dros Gaeredin.
Yr ymwelwyr â Rodney Parade aeth ar y blaen yn gynnar gyda Phil Godman yn llwyddo gyda chic gosb.
Ond fe wnaeth Jason Tovey ergydio ddwywaith i'r tîm cartref cyn i Joe Bedford gael cais cyntaf y gêm.
Llwyddodd Tovey i drosi ac roedd y tîm cartref ar y blaen wedi cais Brew o 18-3 ar yr hanner.
Wedi'r egwyl fe roddodd Grant Gilchrist obaith i'r ymwelwyr gyda chais ac fe wnaeth Gregor Hunter ei throsi.
Ond fe ychwanegodd Tovey gic gosb arall cyn y chwiban olaf.
Fe allai Brew, a fydd yn gadael Cymru am Biarritz ar ddiwedd y tymor, fod wedi ychwanegu mwy o bwyntiau i'r tîm cartref.
TABL RABODIRECT PRO 12
Chwefror 18 2012