Selby a Junhui yn y rownd derfynol yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Ding Junhui a Mark Selby fydd yn y rownd derfynol
Mark Selby fydd yn wynebu Ding Junhui yn rownd derfynol Pencampwriaeth Agored Snwcer Cymru.
Enillodd Selby 6-2 yn erbyn Ronnie O'Sullivan.
Roedd pencampwr y byd ar dri achlysur, O'Sullivan, yn edrych yn hyderus drwy'r wythnos yng Nghasnewydd ond gwnaeth nifer o gamgymeriadau yn erbyn Selby, a enillodd bedair ffrâm o'r bron pan oedd hi'n gyfartal 2-2.
Yn gynharach ddydd Sadwrn llwyddodd Junhui o China i guro'r Sais Shaun Murphy 6-2.
Junhui wnaeth ddominyddu'r gêm drwy wneud rhediadau o 91, 71, 86 a 75.
Mae Junhui yn gyn-enillydd Pencampwriaeth y Meistri a'r DU.
Fe enillodd Selby y bencampwriaeth yma yn 2008.
Fe fydd y rownd derfynol yn cychwyn yng Nghanolfan Casnewydd am 1pm.
Straeon perthnasol
- 16 Chwefror 2012
- 16 Chwefror 2012
- 15 Chwefror 2012
- 14 Chwefror 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol