Achub dynes wedi i'w char blymio i lawr llethr ger Y Bala
- Cyhoeddwyd
Mae dynes wedi ei hachub, ar ôl i'w char blymio i lawr llethr ar ffordd wledig yng Ngwynedd.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar yr A494 yng Nghefnddwysarn ger Y Bala toc cyn 9am ddydd Sul.
Yn ôl adroddiadau fe wnaeth y car blymio i lawr tua 15 troedfedd oddi ar yr A494.
Cafodd diffoddwyr tân o'r Bala a Chorwen eu galw i'r safle.
Does dim manylion am gyflwr y ddynes.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol