Tarw Limousin yn cael ei werthu am record o £126,000
- Cyhoeddwyd
Mae tarw a fagwyd ym Mhowys wedi cael ei werthu am y swm mwya' erioed yn y DU.
Talodd Alan Jenkinson o Penrith £126,000 am y tarw Limousin a fagwyd gan Glyn Vaughan o Fachynlleth.
Roedd yr arwerthiant ym Marchnad Caerliwelydd ddydd Sadwrn.
Dyma'r swm mwya' erioed i'w dalu am darw o'r brid yma.
Er bod y pris yn uchel, mae arbenigwyr yn dweud y dylai perchennog newydd Dolcorsllwyn Fabio adfer yr arian yn fuan drwy fagu.
Y pris ucha' cyn hyn am darw yn y DU oedd £105,000.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol