£1m yn brin o bosib i adfer pier dinas Bangor
- Cyhoeddwyd

Mae'n bosib na fydd modd gwneud gwaith angenrheidiol ar ail bier hiraf Cymru, a hynny oherwydd y gost.
Fe ddylai Pier Bangor, sydd yn ardal Y Garth, gael ei adnewyddu o fewn y ddwy flynedd nesaf, fel rhan o waith atgyweirio bob 25 mlynedd.
Ond oherwydd ei leoliad, o fewn ardal gadwraeth forol Y Fenai, amcangyfrifir y byddai'r gost dros £2 miliwn.
Yn ôl Cyngor Dinas Bangor dim ond tua £1 miliwn sydd ganddyn nhw ar gyfer y gwaith.
"Mae angen adnewyddu'r metel sydd wedi rhydu os nad gosod y metel o'r newydd," meddai clerc y ddinas, Gwyn Hughes.
"Mae 'na gyrydiad yn digwydd ac mae angen gwneud gwaith ar y pier heb son am beintio'r holl waith metel.
"Mae'n waith enfawr ac mae'n cael ei gymhlethu am ei fod yn mynd allan i'r Fenai."
Dywedodd fod rhaid gwarchod y bywyd gwyll yn ogystal â'r gwely o gregyn gleision.
Cymorthdaliadau
Wedi trafodaeth gyda pheirianwyr strwythurol, fe allai un opsiwn o warchod yr amgylchedd cyn cychwyn gwaith ar y pier ei hun, arwain at gostau yn agos at £2 miliwn.
"Rydym wedi bod yn cynilo ar gyfer y gwaith am y 25 mlynedd diwethaf ac wedi neilltuo £1 miliwn tuag at hyn," meddai Mr Hughes.
"Dwi'n amau a fyddai hynny yn ddigon ac fe fyddem yn chwilio am gymorthdaliadau."
Mae cefnogwyr y pier yn benderfynol bod ei ddyfodol yn cael ei warchod.
Un sydd wedi treulio 14 mlynedd yn cynnal ciosg gwybodaeth ar y pier yw Glenys Pierce ac mae hi'n gwbl angerddol am y strwythur Fictorianaidd.
"Mae angen edrych ar ei ôl fel y byddwch chi'n ei wneud ag unrhwy dŷ neu ardd," meddai.
"Oes, mae angen gwario arian ond fe fydd y budd o wneud hynny yn arbennig.
"Mae'r pier yn bwysig iawn i'r ddinas."
Cafodd y pier ei agor am y tro cyntaf i'r cyhoedd ym 1896, ar ôl ei adeiladu ar gost o £17,000.
Ond fel sawl un ar draws y DU erbyn y 1970au roedd wedi mynd a'i ben iddo ac roedd bygythiad i'w ddymchwel.
Ond wedi ymdrechion cefngowyr fe gafodd y pier ei adnewyddu ac fe ail-agorwyd ym 1988.
Er bod pryderon yn y ddinas mae Mr Hughes yn ffyddiog.
"Mae'r arian sydd ganddo ni yn swm sylweddol i fod yn nawdd cyfatebol wrth iddyn nhw fynd at gyrff fel Cronfa Treftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru am arian.
"Dwi'n ffyddiog nad ydi'r awdurdodau yng Nghymru eisiau gweld y pier yn mynd a'i ben iddo.
"Mae o mewn cyflwr da ar hyn o bryd ac mae angen edrych ymlaen a sicrhau ei fod yn parhau fel yma.
"Dwi'n ffyddiog y bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod y blynyddoedd nesaf."
Straeon perthnasol
- 12 Ebrill 2004
- 1 Tachwedd 2011
- 23 Mehefin 2011