Jane Hutt yn esbonio'r cynllun i ddelio ag AWEMA
- Cyhoeddwyd

Mae Gweinidog Cyllid Cymru wedi manylu ar gynlluniau i ddelio â'r sgandal yn ymwneud ag elusen lleiafrifoedd ethnig AWEMA.
Dywedodd Jane Hutt fod gan y llywodraeth ddau amcan, diogelu cymaint â phosib o'r arian cyhoeddus sy'n dal i fod yng nghyfrifon yr elusen ac amddiffyn pobl sy'n elwa ar brosiectau cydgyfeirio AWEMA.
Daw hyn wedi adroddiad damniol yn gynharach yn y mis arweiniodd at Lywodraeth Cymru yn atal cyllid i'r elusen.
Eglurodd y gweinidog fod cyfarfod wedi'i gynnal gyda bwrdd ymddiriedolwyr yr elusen ddydd Iau diwetha' a'u bod wedi penderfynu y dylai'r Prif Swyddog Gweithredol Naz Malik a'r Cyfarwyddwr Cyllid Saquib Zia gael eu diswyddo'n syth.
Cafodd hynny ei weithredu ddydd Gwener.
Penderfynwyd hefyd y dylai cadeirydd yr elusen, Dr Rita Austin, gael yr hawl i benodi gweinyddwyr i ddelio â busnes ac asedau'r elusen a chau'r cwmni y mae ei bencadlys yn Abertawe.
Cydweithio
Dywedodd Ms Hutt fod Llywodraeth Cymru'n parhau i gydweithio gyda'r Comisiynydd Elusennau sy'n cynnal ymchwiliad statudol i'r broses o ddiddymu AWEMA.
Maen nhw hefyd yn gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru.
Mae Swyddfa Gyllid Ewropeaidd Cymru wrthi'n gweithio gyda noddwyr i geisio sicrhau bod prosiectau ar y gweill yn cael eu gorffen a rhai newydd yn cael eu trefnu ar gyfer y dyfodol.
Yn y cyfamser, mae Swyddfa Archwilio Cymru'n cynnal adolygiad cyn cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus maes o law.
Yn addas
Bydd yr adroddiad yn ystyried a yw Llywodraeth Cymru - gan gynnwys y Swyddfa Gyllid Ewropeaidd - wedi rheoli eu perthynas gydag AWEMA yn addas.
Yn y cyfamser, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am drafodaeth am yr elusen yn y Cynulliad ddydd Mercher, gan ofyn pam na ymatebodd gweinidogion ynghynt.
Mae'r cynnig yn galw ar y llywodraeth i gyflwyno manylion am y rheswm am barhau i gyllido'r elusen ar ôl pryderon am yr elusen yn 2002, 2004 a 2007.
Mae hefyd yn galw am brotocol i sicrhau y bydd modd delio â phryderon o'r fath yn y dyfodol.
Straeon perthnasol
- 18 Chwefror 2012
- 17 Chwefror 2012
- 10 Chwefror 2012
- 9 Chwefror 2012
- 7 Chwefror 2012
- 7 Chwefror 2012
- 6 Chwefror 2012