Medal arian i Geraint Thomas yn Y Felodrom Olympaidd
- Cyhoeddwyd

Medal arian gafodd y Cymro Geraint Thomas fel rhan o dîm seiclo Prydain ym Mhencampwriaeth Cwpan Seiclo'r Byd yn Llundain ddydd Sul.
Roedd Thomas ynghyd ag Ed Clancy, Peter Kennaugh a Steven Burke yn wynebu Awstralia yn y Felodrom Olympaidd.
Awstralia oedd wedi cofnodi'r amser cyflyma nos Iau i gyrraedd y rownd derfynol.
Llwyddodd y pedwar o Awstralia, Jack Bobridge, Rohan Dennis, Alex Edmondson a Michael Hepburn i gofnodi'r trydydd amser cyflyma mewn hanes gyda 3 munud 54.615 eiliad.
Amser Prydain oedd 3 munud 56.330 eiliad.
Prydain sydd wedi cofnodi'r ddau amser cyflyma arall, 3:53.314, yn Beijing yn 2008 wrth iddyn nhw ennill y Fedal Aur ac ymgais arall yn 2009.
Prydain oedd ar y blaen i ddechrau.
Ond am weddill y ras, ceisio dal i fyny gydag Awstralia oedd eu hanes.
Fe fydd y canlyniad yn hwb i Awstralia cyn y Gemau Olympaidd yn yr un lleoliad yn yr haf.
Ond fe fydd y ddau dîm yn cystadlu cyn hynny, ym mhencampwriaethau'r byd ym Melborune fis Ebrill.