Bangor yn camu ymlaen ar frig y gynghrair
- Cyhoeddwyd

Mae Bangor wedi camu ymhellach ar y blaen yn Uwchgynghrair Cymru wedi buddugoliaeth o gôl i ddim oddi cartref yn erbyn Y Bala ddydd Sul.
Roedd y Seintiau Newydd wedi ennill oddi-cartref ddydd Sadwrn ac wedi cau'r bwlch rhyngddyn nhw a'r pencampwyr i un.
Ond roedd gôl Mark Smyth i Fangor ar Faes Tegid wedi 72 munud yn ddigon i olygu bod 'na bedwar pwynt bellach yn gwahanu'r ddau dîm.
Roedd y Seintiau wedi teithio i Lanelli ac fe ddaeth dwy gôl y gêm i'r ymwelwyr yn yr ail hanner a hynny gyda 10 dyn.
Cafodd Connell Rawlinson ei anfon oddi ar y cae wedi 51 munud ar ôl derbyn cerdyn coch.
Greg Draper gafodd gôl gyntaf y Seintiau wedi 49 munud cyn i Aeron Edwards ganfod y rhwyd wedi 63 munud.
Cafodd Castell-nedd fuddugoliaeth adref yn erbyn Prestatyn o gôl i ddim.
Daeth yr unig gul i Kai Edwards wedi 73 munud.
Rhwyd ei hun
Y ddwy gêm arall gafodd ei chwarae ddydd Sadwrn oedd rhai yn ail hanner y tabl.
Fe gafwyd buddugoliaeth i Gaerfyrddin wrth i Dan Macdonald sgorio wedi naw munud yn unig ym Mharc Waun Dew yn erbyn Airbus.
A gêm gyfartal gafwyd ym Mharc Latham rhwng Y Drenewydd a Lido Afan.
Fe rwydodd Craig Hanford i'w rwyd ei hun wedi 39 munud i roi mantais i'r tîm cartref.
Ond daeth yn gyfartal wedi 79 munud gydag ergyd Leone Jeanne.
Nos Wener yng Nghoedlan y Parc cafwyd gêm gyfartal wrth i Bort Talbot deithio i Aberystwyth.
Yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi 16 munud wrth i Richard Greaves rwydo.
Daeth y tîm cartref yn ôl yn yr ail hanner wrth i Josh Shaw sgorio wedi 66 munud.
Derbyniodd pedwar o chwaraewyr Port Talbot gerdyn melyn wrth i un o Aberystwyth gael ei enw yn llyfr y dyfarnwr.
Canlyniadau:
Nos Wener:
Aberystwyth 1-1 Port Talbot
Dydd Sadwrn:
Caerfyrddin 1-0 Airbus
Castell-nedd 1-0 Prestatyn
Y Drenewydd 1-1 Lido Afan
Llanelli 0-2 Y Seintiau Newydd
Dydd Sul:
Bala 0-1 Bangor
TABL UWCHGYNGRHAIR CYMRU
Chwefror 19 2012