Cyngor Sir y Fflint i drafod 'gwendidau'
- Cyhoeddwyd

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan gynghorwyr ddydd Llun.
Bydd cynghorwyr yn Sir y Fflint yn trafod eu hymateb i adroddiad swyddogol sy'n tanlinellu rhai gwendidau o fewn y cyngor.
Dywed adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) fod y problemau hyn "yn dal i rwystro perfformiad."
Mae'r adroddiad hefyd yn son am "gynnydd da" mewn rhai meysydd.
Y llynedd cafwyd adroddiad oedd yn son am "wendidau" yn system budd-dal tai'r cyngor.
Mae'n ofynnol i'r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi adroddiad gwelliant bob blwyddyn ar gyfer pob awdurdod yng Nghymru.
Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adran Adnoddau Corfforaethol y cyngor ddydd Llun.
Straeon perthnasol
- 18 Chwefror 2012
- 14 Rhagfyr 2011
- 21 Ebrill 2009
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol