Rhodri Glyn Thomas yn cefnogi Elin Jones

  • Cyhoeddwyd
Ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth: Dafydd Elis Thomas, Elin Jones, Leanne WoodFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth: Dafydd Elis Thomas, Elin Jones, Leanne Wood

Mae AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Rhodri Glyn Thomas wedi cyhoeddi ei fod yn cefnogi Elin Jones yn y ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Dywedodd y cyn Weinidog Treftadaeth ei fod yn hyderus fod gan Ms Jones y gallu i arwain tîm fyddai gyda'r gallu i ail adeiladu'r blaid.

Fe wnaeth Mr Thomas, llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth, hefyd ganmol Leanne Wood, sydd hefyd yn ymgeisio am yr arweinyddiaeth.

Dywedodd ei fod wedi ei "gyffroi a'm hysbrydoli gan ymgyrch Leanne.

'Rôl bwysig'

"Serch hynny ochr yn ochr â'r weledigaeth yma o ymgyrchu mae angen ail-adeiladu'r blaid.

"Credaf fod gan Elin y gallu i greu ac arwain tîm o bobl i wneud hyn ac rwy'n disgwyl i Leanne gael rôl bwysig yn y tîm hwnnw.

"Ar sail hynny byddaf yn cefnogi Elin yn ei hymgyrch i ddod yn arweinydd nesaf Plaid Cymru."

Mae cyn arweinydd y blaid a chyn lywydd y cynulliad yr Arglwydd Elis Thomas hefyd yn ymgeisio am yr arweinyddiaeth i olynu Ieuan Wyn Jones.

Bydd yr ymgeisydd buddugol yn cael ei gyhoeddi yng Nghaerdydd ar Fawrth 15.

Y system bleidlais amgen fydd yn cael ei defnyddio.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol