Pont Britannia: Rhybudd am dresmasu
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi rhoi rhybudd di-flewyn-ar-dafod yn dilyn honiadau bod pobl yn tresmasu ar Bont Britannia i dynnu lluniau.
Daw rhybudd yr Heddlu Trafnidiaeth wedi i luniau gael eu gosod ar we.
Cafodd rhai o'r lluniau eu tynnu o dan y bont sy'n cysylltu Ynys Môn a Chymru.
Dywed yr heddlu fod y weithred yn "anghyfreithlon ac yn beryglus iawn."
Mae'r bont yn cael ei defnyddio gan geir a threnau.
Dywedodd llefarydd nad oeddynt yn ymwybodol o bobl yn tresmasu a thynnu lluniau ar safleoedd amlwg eraill yng Nghymru.
Peryglus
Yn Lloegr, mae enghreifftiau o bobl yn tresmasu a thynnu lluniau o safleoedd gan gynnwys ffatrïoedd gwag, hen iardiau llongau a thwneli.
Cafodd Pont Britannia, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, ei hadeiladu gan Robert Stephenson yn ystod yr 1840au.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Rydym yn ymchwilio troseddau tresmasu posib ar ôl clywed am luniau, mae'n debyg, gafodd eu tynnu o Bont Britannia sydd wedi ymddangos ar y we.
"Mae tresmasu ar unrhyw ran o reilffordd yn anghyfreithlon ac yn beryglus iawn."
Cafodd y bont ei difrodi gan dân ym 1970 cyn cael ei hail agor i drenau ym 1972, ac i gerbydau ym 1980.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ynglŷn â'r lluniau gysylltu â'r Heddlu Trafnidiaeth ar 0800 405040.
Straeon perthnasol
- 10 Ionawr 2011
- 11 Chwefror 2007
- 9 Ebrill 2003
- 28 Chwefror 2005
- 9 Tachwedd 2005