Canolfan alwadau i gyflogi 600 yng Nghaerdydd

canolfan alwadau (llun cyffredinol) Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Bydd y swyddi newydd yn cael eu creu yng nghanolfan alwadau'r cwmni yng nghanol Caerdydd

Bydd 600 o swyddi yn cael eu creu yng Nghaerdydd wrth i gwmni canolfan alwadau ehangu.

Mae cwmni Americanaidd Conduit eisoes yn cyflogi dros 1,900 o bobl mewn tri safle yng Nghymru - dau yng Nghaerdydd ac un yn Abertawe.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod yn ehangu ar ôl ennill cytundeb newydd gyda Nwy Prydain.

Bydd y swyddi newydd yn cael eu creu yn y ganolfan yng nghanol Caerdydd.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, bod y newyddion yn dangos fod y ddinas yn datblygu yn ganolfan ar gyfer gwasanaethu proffesiynol ac ariannol.

"Mae cyhoeddiad heddiw yn arwydd arall fod polisïau llywodraeth Cymru yn rhoi help llaw i'r economi ac yn llwyddo i greu swyddi mewn cyfnod anodd."

Dywedodd fod y newyddion yn hwb i ddatblygiad ardal fusnes canol Caerdydd, lle mae yna gynlluniau i ganiatáu datblygiad hyd at 40,000 o swyddi.

Dywedodd Denis Creighton, prif weithredwr Conduit yn Ewrop: "Rydym yn falch i agor y ganolfan newydd a chreu mwy na 600 o swyddi eleni. Y ganolfan yng nghanol Caerdydd fydd yn arwain ein gweithgareddau."

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd cwmni DRIAS Transnat o America eu bod yn creu 30 o swyddi yng Nghaerdydd.

Mae'r cwmni yn gweinyddu cynlluniau yswiriant ar gyfer cwmnïau eraill.

Dywedon nhw y byddai'r gweithlu yn cynyddu i 50 dros gyfnod y ddwy flynedd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.