12 o achosion brech goch

  • Cyhoeddwyd
MMRFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Mae nifer yr achosion sy'n gysylltiedig â'r ysgol erbyn hyn wedi codi o 10 i 12

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi annog rhieni i drefnu bod eu plant yn cael brechiadau MMR.

Erbyn hyn, mae 12 o achosion y frech goch yn gysylltiedig ag Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog, Gwynedd.

Bydd sesiwn frechu yn yr ysgol am 9.30am ddydd Mercher, Chwefror 22, ac un am 9.30am ddydd Iau, Chwefror 23.

Yr unig amddiffyniad yn erbyn y firws yw dau ddos o'r brechlyn MMR rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela.

Dywedodd yr awdurdodau fod pob achos naill ai wedi cael un dos yn unig neu ddim un o gwbl.

Symptomau

Mae'r frech goch yn salwch firaol heintus iawn sy'n cael ei ddal trwy gysylltiad uniongyrchol â rhywun sydd wedi'i heintio neu drwy'r aer gan ddefnynnau yn sgil pesychu a thisian.

Ymhlith y symptomau mae twymyn, symptomau tebyg i annwyd, lludded, conjynctifitis a brech frowngoch amlwg.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, nid oes triniaeth benodol ar gyfer y frech goch. Yn hytrach, dylid seilio triniaeth ar liniaru symptomau.

Oherwydd bod y frech goch yn cael ei hachosi gan firws, nid yw gwrthfiotigau'n effeithiol ond mae modd eu cael ar bresgripsiwn os yw haint bacteriol eilaidd yn datblygu.

Dylid holi meddyg os yw'r frech goch yn cael ei hamau a dylai unrhyw un sydd â'r frech goch gael ei fonitro'n ofalus rhag ofn bod cymhlethdodau.

Mae'n bosibl y bydd angen triniaeth ysbyty petai cymhlethdodau difrifol yn datblygu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol