Achos Nikitta: Rheithgor adref

  • Cyhoeddwyd
Nikitta GrenderFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Nikitta Grender bythefnos cyn yr oedd hi i fod i roi genedigaeth i ferch

Yn Llys y Goron Casnewydd, mae'r rheithgor wedi cael eu gyrru adref ar ôl diwrnod o ystyried eu dyfarniad yn yr achos yn erbyn dyn 27 oed sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio merch ifanc feichiog.

Bydd y rheithgor yn ail ymgynull fore Mercher am 10:15am.

Cafodd Carl Whant o'r Betws yng Nghasnewydd ei gyhuddo o drywanu Nikitta Grender, 19 oed, fis Chwefror diwetha'.

Mae'n gwadu iddo'i llofruddio, ei threisio a hefyd dinistrio baban yn ei chroth a rhoi ei fflat ar dân yn fwriadol.

Wrth grynhoi'r achos ddydd Llun, dywedodd y Barnwr Ustus Griffith William wrth y rheithgor:

"Roedd Nikitta Grender yn ferch ifanc brydferth oedd ar fin bod yn fam.

"Ac roedd ei marwolaeth yn sioc i lawer o bobl ... fe gafodd lawer o sylw yn y cyfryngau.

"Mae'r cydymdeimlad â'i theulu'n fawr iawn ond rhaid i chi ddiystyru hyn a phenderfynu dim ond ar sail y dystiolaeth."

Bu farw Ms Grender bythefnos cyn oedd hi i fod i roi genedigaeth i ferch fach.

Dinistrio tystiolaeth

Daeth diffoddwyr o hyd i'w chorff yn ei fflat yn Llysweri, Casnewydd, tua 8am ar Chwefror 5, 2011.

Honnodd yr erlyniad fod y diffynnydd wedi rhoi gwely yn y fflat ar dân er mwyn ceisio dinistrio tystiolaeth.

Daeth arbenigwyr fforensig o hyd i olion DNA'r diffynnydd ar y ferch yn ystod archwiliad post mortem.

Dywedodd fod ei ail gefnder a chariad Miss Grender, Ryan Mayes, 17, wedi cynnig iddo gael rhyw gyda'r ferch y noson cyn y llofruddiaeth.

Mae'r diffynnydd yn gwadu ei fod yn fflat Miss Grender y noson y bu hi farw.