Ffelt a chotwm a bywyd y dre

Y gwaith celf yn Llyfrgell y Rhyl Image copyright Other
Image caption Bydd y gwaith yn cael ei ddadorchuddio ar Chwefror 21

Mae plant yn defnyddio gwaith tecstiliau i ddathlu presennol a gorffennol Y Rhyl.

Bydd y gwaith yn cael ei ddadorchuddio ar Chwefror 21 yn llyfrgell y dref, sydd newydd gael ei hailwampio.

Gyda chymorth yr arlunydd Cefyn Burgess mae disgyblion Ysgol Dewi Sant, grŵp o gynhalwyr ifanc ac aelodau Canolfan Ferched Y Rhyl wedi defnyddio ffelt a chotwm i adlewyrchu bywyd y dref.

Rheolwyd y prosiect gan Jo McGregor, cydlynydd celf Cyngor Sir Dinbych.

"Gofynnodd rheolwyr y llyfrgell i ni greu rhywbeth i roi ar y wal fawr yng nghefn yr adeilad, sy'n ymestyn i fyny i'r atriwm," meddai.

'Ymchwilio'

"Roedden nhw am i ni greu rhywbeth yn ymwneud â'r Rhyl ac felly daeth y plant ysgol a'r cynhalwyr i'r llyfrgell i ymchwilio i hanes y dref, gan gynnwys y pier, yr hen ffair a'r eglwysi."

Defnyddiodd yr arlunydd a'r bobl ifanc beiriannau addurno i wthio haenau o ffelt i mewn i'r cotwm yn lle eu pwytho.

Wedyn rhoddodd Cefyn yr holl luniau gwahanol at ei gilydd.

"Y syniad yw denu mwy o bobl i mewn i'r llyfrgell a ddaru'r plant wir fwynhau'r gwaith," meddai Jo.

"Roedd yn wych rhoi cyfle i blant sy'n gofalu am eu rhieni, yn byw mewn amgylchiadau anodd, i wneud rhywbeth therapiwtig."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.