Achos Nikitta yn dirwyn i ben
- Cyhoeddwyd

Bydd rheithgor achos dyn 27 oed ar gyhuddiad o dreisio a llofruddio merch ifanc feichiog yn dechrau ystyried eu dyfarniad ddydd Mawrth.
Mae Carl Whant o'r Betws yng Nghasnewydd wedi ei gyhuddo o drywanu Nikitta Grender, 19 oed, fis Chwefror diwetha'.
Mae'n gwadu iddo'i llofruddio, ei threisio a hefyd ddinistrio baban yn ei chroth a rhoi ei fflat ar dân yn fwriadol.
Mae disgwyl i'r barnwr ddechrau crynhoi'r achos yn Llys y Goron Casnewydd yn ddiweddarach ddydd Llun.
Bu farw Ms Grender bythefnos cyn oedd hi i fod i roi genedigaeth i ferch fach.
Dinistrio tystiolaeth
Daeth diffoddwyr o hyd i'w chorff yn ei fflat yn Llysweri, Casnewydd, tua 8am ar Chwefror 5, 2011.
Honnodd yr erlyniad fod y diffynnydd wedi rhoi gwely yn y fflat ar dân er mwyn ceisio dinistrio tystiolaeth.
Daeth arbenigwyr fforensig o hyd i olion DNA'r diffynnydd ar y ferch yn ystod archwiliad post mortem.
Dywedodd fod ei ail gefnder a chariad Miss Grender, Ryan Mayes, 17, wedi cynnig iddo gael rhyw gyda'r ferch y noson cyn y llofruddiaeth.
Mae'r diffynnydd yn gwadu ei fod yn fflat Miss Grender y noson y bu hi farw.
Straeon perthnasol
- 16 Chwefror 2012
- 15 Chwefror 2012
- 3 Chwefror 2012
- 1 Chwefror 2012
- 20 Ionawr 2012
- 16 Ionawr 2012
- 18 Ionawr 2012