Dod o hyd i fenyw ar goll
- Cyhoeddwyd

Roedd yr heddlu wedi dweud ei bod hi efallai wedi lliwio'i gwallt yn ddu
Mae'r heddlu wedi dod o hyd i Americanes 32 oed nad oedd neb wedi ei gweld ers Ionawr 4.
Daethpwyd o hyd i Kathryn Barnes yn iach yn Mount Pleasant, Abertawe, nos Wener, Chwefror 17.
Dywedodd yr heddlu yr hoffen nhw ddiolch i'r cyhoedd a'r cyfryngau.
Roedd y fenyw 32 oed o Ohio wedi bod yn aros mewn amryw leoedd yn Abertawe, Pontardawe ac Aberdaugleddau ers wythnosau.
Ar un adeg dywedodd ei mam Lisa Schoonover fod ei diflaniad yn "frawychus" a bod ei theulu ar bigau'r drain.
Cyrhaeddodd Ms Barnes, sy'n cael ei hadnabod fel Kate, y DU ar Dachwedd 8.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol