Data lloeren i dargedu lladron beiciau cwad

  • Cyhoeddwyd
Ffermwr yn defnyddio beic pedair olwynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae ffermwyr yn defnyddio beiciau pedair olwyn i gludo bwyd a chadw golwg ar anifeiliaid

Mae'r heddlu yn ceisio mynd i'r afael â lladron beiciau pedair olwyn trwy ddefnyddio data lloeren.

Mae system debyg wedi helpu Heddlu Dyfed-Powys i ostwng nifer y lladradau ceir o 25% mewn tair blynedd.

Mae gangiau wedi dwyn tua 50 o'r beiciau cwad, gwerth dros £230,000 ym Mhowys ers 2009.

Yn ôl yr heddlu, gallai'r cerbyd gael eu hallforio i leoedd fel Iwerddon a dwyrain Ewrop.

Daeth arolwg y llynedd i'r casgliad fod troseddwyr sy'n targedu ffermydd yng Nghymru wedi dwyn gwerth £1.7m o offer yn 2010.

Mae beiciau cwad wedi cael eu defnyddio ar ffermydd ers blynyddoedd. Mae ffermwyr, gan gynnwys nifer o ffermwyr mynydd Cymru, yn eu defnyddio i gludo bwyd ac i gadw golwg ar dda byw.

Gangiau troseddol

Er bod Heddlu Dyfed-Powys wedi llwyddo i ddod o hyd i thua saith beic werth £34,000, maen nhw'n gobeithio nawr y bydd y system data lloeren - fydd yn cael ei osod ar un o'u beiciau cwad nhw - yn eu galluogi i ddod o hyd i fwy.

Dywedodd Sarjant Kelvin Briggs: "Fe wnaethon ni ddechrau defnyddio'r system data lloeren mewn car yn 2009 ac arweiniodd hynny at ostyngiad o 25% yn nifer y ceir a gafodd eu dwyn o'r sir dros dair blynedd.

"Rydym nawr yn ei ddefnyddio i dargedu lladron beiciau pedair olwyn."

Yn ôl Sarjant Briggs, mae gan yr heddlu ryw fath o syniad o bwy sy'n gyfrifol am ddwyn y cerbydau.

"Mae gangiau troseddol yn dod i mewn i'r ardal ac yn targedu'r offer sydd wedi cael ei anfon yn y gorffennol i Weriniaeth Iwerddon, ond gan fod yr economi mor fflat yno ar hyn o bryd rydym yn credu eu bod yn anfon i Wlad Pwyl erbyn hyn," ychwanegodd.

"Gall ein beic cwad ni gael ei osod mewn ardaloedd sy'n cael eu targedu gan ladron ac os yw'n cael ei ddwyn byddwn yn gallu dod o hyd iddo trwy'n system gyfrifiadurol."

Eglurodd Sarjant Briggs y byddai'r beic yn cael ei ddefnyddio ym Mhowys am y tro, ond y gallai gael ei symud i ardaloedd eraill o fewn Dyfed-Powys.

Offer diogelwch

Dywedodd fod Heddlu Dyfed-Powys yn cydweithio â heddluoedd eraill, sy'n defnyddio systemau data lloeren tebyg, a bod 'na gyfle i rannu offer.

Ychwanegodd fod y dechnoleg yn dal i gael ei defnyddio i daclo lladradau ceir.

Mae undebau ffermwyr wedi croesawu'r cynllun. Dywedodd cyfarwyddwr busnes Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr James fod lladradau beiciau pedair olwyn ar gynnydd.

Eglurodd fod ffermwyr yn eu defnyddio i symud o gwmpas ac y byddai nifer o ffermwyr ar goll yn llwyr hebddynt.

"Mae lladron fel petai nhw'n meddwl na fyddan nhw'n cael eu dal am eu bod yn gweithredu mewn ardaloedd gwledig," meddai.

"Gallai ffermwyr hefyd gredu eu bod yn fwy diogel mewn ardaloedd gwledig a gallai hyn arwain at fethu â sicrhau bod eu heiddo yn ddiogel pob tro.

"Mae angen mesurau i atal torcyfraith yn anffodus, ac mae gosod offer data lloeren ar feiciau cwad yn un ffordd o ddod o hyd i'r cerbydau os ydynt yn cael eu dwyn."

Ychwanegodd Mr James y dylai ffermwyr hefyd fod yn ymwybodol bod nifer o larymau a dyfeisiau diogelwch ar gael i'w prynu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol