Mwy o docynnau Wembley i gefnogwyr Caerdydd
- Published
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi cael 1,500 o docynnau ychwanegol ar gyfer rownd derfynol Cwpan Carling yn erbyn Lerpwl yn Wembley ddydd Sul.
Byddan nhw'n mynd ar werth o 10:00am ddydd Mawrth yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae'n rhaid prynu tocynnau dros y cownter a dim ond cefnogwyr cofrestredig, sydd ar fas data'r clwb cyn rownd gynderfynol Cwpan Carling, fydd yn gymwys.
Roedd Caerdydd eisoes wedi cael 31,000 o docynnau ar gyfer y gêm - y tro cynta' erioed i glwb o Gymru gyrraedd rownd derfynol Cwpan Carling.
Dywedodd y clwb ar eu gwefan: "Bydd cefnogwyr yn gallu prynu un tocyn ar gyfer pob un rhif cefnogwr dilys.
"Fydd dim modd gwerthu mwy na dau o docynnau i un person.
"Mae staff y swyddfa docynnau wedi cael cyfarwyddyd i wirio cefndir prynu tocynnau pob cefnogwr i sicrhau eu bod yn ddilys."
Fe gyrhaeddodd Caerdydd y rownd derfynol ar ôl curo Crystal Palace ar giciau o'r smotyn fis diwetha'.
Straeon perthnasol
- Published
- 24 Ionawr 2012
- Published
- 10 Ionawr 2012