Norofirws: Gwaethygu mewn ysbyty
- Cyhoeddwyd

Mae rhagor o wardiau yn un o ysbytai Sir Benfro wedi cael eu taro gan haint sy'n achosi salwch a dolur rhydd.
Dywed Bwrdd Iechyd Hywel Dda fod yr achosion yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, wedi gwaethygu a bod pum ward wedi cau i gleifion newydd erbyn hyn.
Mae'r bwrdd yn gofyn i deuluoedd a ffrindiau i beidio ag ymweld â chleifion, ac mae 'na gais i staff sydd ar gael i weithio i gysylltu â'u rheolwyr.
Mae 'na achosion o norofirws wedi dod i'r amlwg mewn nifer o ysbytai ar draws Cymru fis yma.
Yn Ysbyty Llwynhelyg, mae wardiau saith, 10, 11 a'r uned integriad gwasanaethau cymdeithasol ynghau i gleifion newydd.
Mae ward rhif un wedi'i chau hefyd nawr, ynghyd â rhannau o wardiau tri, phedwar a 12.
Mesurau rheoli haint
"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod 'na fynediad i wasanaethau brys ac mae'r ffaith fod staff yn gweithio oriau ychwanegol yn helpu hyn," meddai'r bwrdd iechyd.
"Rydym yn gofyn i unrhyw staff sydd ar gael i weithio i gysylltu â'u rheolwr os gwelwch yn dda."
Dywedodd swyddogion iechyd fod mesurau rheoli haint yn cael eu gweithredu ar draws yr ysbyty a bod llai o gleifion yn cael eu derbyn i'r ysbyty.
Mae norofirws wedi taro'r rhan fwyaf o wardiau erbyn hyn, ac mae'r bwrdd iechyd yn gofyn i bobl beidio ag ymweld â'r ysbyty am y tro.
"Bydd staff wardiau yn gwneud popeth posib i roi gwybodaeth gyfredol ar y ffôn," meddai'r bwrdd.
"Mae'r bwrdd iechyd yn gofyn i aelodau'r cyhoedd sy'n diodde' gyda salwch a dolur rhydd i beidio â mynd i'r ysbyty nag unrhyw gyfleuster gofal."
Poenau stumog
"Rydym yn gofyn i'r cyhoedd ystyried a yw hi'n gwbl hanfodol i ddefnyddio gwasanaethau oherwydd y pwysau am welyau ar hyn o bryd."
Dros y penwythnos, dywedodd Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant fod 'na achosion o norofirws yno erbyn hyn.
Bu'n rhaid cau sawl ward dros dro.
Mae'r haint hefyd wedi effeithio ar Ysbytai Gwynedd, Maelor Wrecsam, Glan Clwyd, Bae Colwyn a Thywyn yng ngogledd Cymru, yn ogystal â Bronglais yn Aberystwyth.
Prif symptomau norofirws yw teimlo'n gyfoglyd yn sydyn, poen stumog ac yna chwydu "hyrddiol" drwg a/neu ddolur rhydd.
Efallai hefyd y bydd ychydig o wres, cur pen, cramp yn y stumog a breichiau a choesau poenus.
Fel arfer bydd y symptomau'n dechrau rhwng 12 - 48 awr wedi i'r unigolyn ddal yr haint.
Straeon perthnasol
- 15 Chwefror 2012
- 7 Ionawr 2012
- 3 Ionawr 2012
- 19 Rhagfyr 2011