Giggs am geisio hawlio iawndal

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Roedd amryw o bapurau newydd yn ceisio dyfalu enw'r pêl-droediwr yn y stori

Mae Ryan Giggs wedi cael ei enwi yn y llys am y tro cynta' fel y pêl-droediwr a sicrhaodd orchymyn llys yn ymwneud â pherthynas honedig gyda'r fodel o Lanelli, Imogen Thomas.

Fe gytunodd seren Manchester United a Chymru i godi'r gwaharddiad mewn gwrandawiad yn yr Uchel Lys yn Llundain ddydd Mawrth.

Mae Giggs, 38 oed, nawr yn bwriadu hawlio iawndal am amharu ar breifatrwydd.

Roedd y chwaraewr priod wedi sicrhau'r gorchymyn fis Ebrill y llynedd, i atal papur newydd y Sun rhag cyhoeddi honiadau ei fod wedi cael perthynas gydag Imogen Thomas.

Ond cafodd Giggs, 38, ei enwi gan filoedd o bobl ar wefannau Twitter a Wikipedia ac fe ddefnyddiodd yr Aelod Seneddol John Hemming ei fraint seneddol i'w enwi yn Nhŷ'r Cyffredin.

Dywedodd cyfreithiwr Giggs, Hugh Tomlinson QC, ei fod yn caniatáu codi'r rhan o'r gwaharddiad yn ymwneud ag enwi.

Esboniodd bod y rhan hwnnw wedi'i anwybyddu ar raddfa eang gan Aelod Seneddol a miloedd o bobl ar y we.