Mwy o fanylion am ddamwain angheuol

Dywed Heddlu Gorllewin Mercia fod dynes 20 oed a fu farw mewn damwain car yn Whitchurch, Sir Amwythig, ddydd Sul yn dod o Ddinbych.

Roedd Catrin Rebecca Pickles yn gyrru Vauxhal Corsa Hatch a fu mewn gwrthdrawiad gyda lori Volvo wen ar yr A525.

Cafodd gyrrwr y lori driniaeth am sioc ond ni chafodd ei anafu.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r ddamwain, neu unrhyw un a welodd y ddau gerbyd yn cael eu gyrru munudau cyn y ddamwain.

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Gorllewin Mercia: "Rydym yn parhau i ymchwilio i achos y ddamwain drasig."

Bydd post mortem yn cael ei gynnal ac mae disgwyl i gwest gael ei agor a'i ohirio yn ddiweddarach yr wythnos hon.