Yn euog o lofruddiaeth Nikitta Grender

  • Cyhoeddwyd
Nikitta GrenderFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Nikitta Grender bythefnos cyn yr oedd hi i fod i roi genedigaeth i ferch

Yn Llys y Goron Casnewydd cafwyd Carl Whant yn euog o drywanu a llofruddio Nikitta Grender, 19 oed, yn ei fflat.

Penderfynodd y rheithgor yn unfrydol fod y cynfownsiwr clwb nos 27 oed o'r Betws yng Nghasnewydd yn euog o dreisio Ms Grender, dinistrio baban yn ei chroth a rhoi ei fflat ar dân. Roedd wedi gwadu'r cyhuddiadau.

Fe gafodd ei garcharu am o leia 35 mlynedd ac ni ddangosodd unrhyw emosiwn yn y doc.

Edrychodd ei fam arno cyn rhythu ar ystafell y llys.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Ustus Griffith Williams na ddylai'r cyhoedd gynhyrfu.

Dywedodd fod galar y teulu'n fwy am fod y diffynnydd wedi honni bod Nikitta wedi cytuno i gael rhyw ag e.

'Torcalonnus'

"Roedd y diffynnydd yn berson cyfrwys, craff a balch oedd yn meddwl tipyn o'i hun."

Tu allan i'r llys dywedodd ewythr Nikitta, Michael Brunnock: "Mae'r flwyddyn ddiwetha wedi bod yn llawer mwy caled nag y gall rhywun ei ddychmygu.

"Gweld ein hwyres, Kelsey-May, mewn marwdy oedd y profiad mwya torcalonnus erio'd.

"Fydd dim modd delio â'r digwyddiadau trychinebus hyn."

Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Geoff Ronayne fod cyfiawnder wedi ei weithredu.

"Dyw Whant erioed wedi cyfadde ei fod yn euog nac wedi esbonio pam y cyflawnodd y troseddau ofnadwy hyn.

"Rydyn ni wedi gwneud ein gorau i i gefnogi'r teulu ac rydyn ni'n meddwl amdanyn nhw heddi.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Rhieni Nikitta, Paul Brunnock a Marcia Grender

"Dylid canmol y teulu oherwydd eu dewrder a'u hunanbarch."

Roedd yn gobeithio, meddai, fod y ddedfryd yn rhywfath o gysur iddyn nhw.

Bu farw Nikitta bythefnos cyn yr oedd hi i fod i roi genedigaeth i ferch fach.

Daeth diffoddwyr o hyd i'w chorff yn ei fflat yn Llysweri, Casnewydd, tua 8am ar Chwefror 5, 2011.

Honnodd yr erlyniad fod y diffynnydd wedi rhoi gwely yn y fflat ar dân er mwyn ceisio dinistrio tystiolaeth.

Daeth arbenigwyr fforensig o hyd i olion DNA'r diffynnydd ar y ferch yn ystod archwiliad post mortem.

Roedd Whant wedi gwadu ei fod yn fflat Miss Grender y noson y bu hi farw.

Dywedodd fod ei ail gefnder a chariad Miss Grender, Ryan Mayes, 17, wedi cynnig iddo gael rhyw gyda'r ferch y noson cyn y llofruddiaeth.

Clywodd y rheithgor fod y diffynnydd wedi ei arestio bedwar diwrnod ar ôl marwolaeth Ms Grender.

Dywedodd ei fod mewn cyffion am tua awr a bod marciau ar ei arddwrn chwith.

Gwrthod ateb

Cafodd ei archwilio gan feddyg ac fe gafodd lluniau eu tynnu o'r marciau.

Dywedodd iddo wrthod ateb cwestiynau'r heddlu am ei fod wedi eu hateb o'r blaen.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Whant wedi gwadu'r cyhuddiadau i gyd

Cafodd y rheithgor weld map y llwybr yr honnodd yr heddlu ei fod wedi dilyn wrth deithio i gartref Ms Grender.

Ond dywedodd wrth y llys nad oedd wedi bod yn agos at ei fflat y noson dan sylw.

Clywodd y llys Whant yn disgrifio'n fanwl sut y cyrhaeddodd gartre ei fam-gu ar ôl bod mewn parti.