Warburton yn dychwelyd

Sam Warburton Image copyright Getty Images
Image caption Bydd Sam Warburton yn dychwelyd fel capten

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi ei dîm i wynebu Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn.

Mae Sam Warburton yn dychwelyd ar ôl anaf ac ef fydd y capten.

Hefyd wedi ei ddewis mae'r asgellwr George North, a gafodd ei anafu yn y fuddugoliaeth yn erbyn yr Alban.

Yn colli'r gêm oherwydd anaf mae'r bachwr Huw Bennett, gyda bachwr y Scarlets Ken Owens yn cymryd ei le.

Mae'r clo Alun Wyn Jones wedi ei ddewis yn lle Ryan Jones.

Hon fydd ei gêm ryngwladol gyntaf ers iddo anafu ei droed yng Nghwpan y Byd.

Dywedodd Warren Gatland: "Mae Alun Wyn Jones yn cael ei ddewis ar sail ei berfformiad yng Nghwpan y Byd a'i brofiad fel clo rhyngwladol.

"Roedd hi'n broblem ddyrys, ond mae'n broblem werth ei chael.

"Tra bod Ryan Jones yn anlwcus iawn i golli mas y tro hwn, dyma'r math o gystadleuaeth rydym yn dymuno ei chael."

Cymru: L Halfpenny (Gleision); A Cuthbert (Gleision), J Davies (Scarlets), J Roberts (Gleision), G North (Scarlets); R Priestland (Scarlets), M Phillips (Bayonne); G Jenkins (Gleision), K Owens (Scarlets), A Jones (Gweilch), A W Jones (Gweilch), I Evans (Gweilch), D Lydiate (Dreigiau), S Warburton (Gleision, capt), T Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: R Hibbard (Gweilch), P James (Gweilch), R Jones (Gweilch), J Tipuric (Gweilch), L Williams (Gleision), J Hook (Perpignan), S Williams (Scarlets).

Gemau Gwahaniaeth pwyntiau Pwyntiau
1. Cymru 2 +16 4
2. Lloegr 2 +11 4
3. Ffrainc 1 +18 2
4. Iwerddon 1 -2 0
5. Yr Alban 2 -21 0
6. Yr Eidal 2 -22 0

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.