Gwerthu medalau am £60,000

  • Cyhoeddwyd
Charlie JonesFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Chwaraeodd Charlie Jones wyth waith dros Gymru

Cafodd medalau a chapiau Charlie Jones, cyn-gapten tîm pêl droed Cymru eu gwerthu mewn ocsiwn am £60,189.

Ganed Jones yn Nhroedyrhiw, Merthyr Tudful yn 1899. Cychwynnodd ei yrfa gyda chlwb Caerdydd cyn symud i Arsenal a chwaraeodd wyth gwaith dros ei wlad.

Roedd yr ocsiwn hefyd yn cynnwys eitemau oedd yn perthyn i'r cyn-aelod o garfan Cwpan y Byd Cymru, Derrick Sullivan, a chrys a gafodd ei wisgo gan gyn gapten a rheolwr Cymru, Gary Speed.

Chwaraeodd Sullivan i Gaerdydd, Casnewydd a Glyn Ebwy ac roedd yn rhan o'r tîm olaf Cymreig i fynd i Gwpan y Byd yn Sweden yn 1958.

Bu farw Charlie Jones yn 1966. Chwaraeodd dros Gaerdydd unwaith cyn symud ymlaen i Stockport County, Oldham Athletic a Nottingham Forrest.

Roedd yn rhan flaenllaw o garfan Arsenal pan ymunodd â'r clwb yn 1928.

Arwr cudd

Y drytaf o'r 25 eitem yw'r fedal i ddathlu Arsenal yn bencampwyr Lloegr yn 1933/34. Cafodd ei gwerthu am £11,875.

Aeth medal debyg am y tymor blaenorol am £8,750, ac un arall am dymor 1930/31 am £10,000.

Talwyd £3,500 am grys Arsenal o gêm yn 1932.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae gan Gymdeithas Bêl Droed Cymru ddiddordeb mewn prynu rhai o’r eitemau

Roedd Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi gobeithio prynu rhai o'r eitemau ar gyfer eu casgliad nhw, ac fe lwyddon nhw i brynu rhaglen y gêm rhwng Cymru a Lloegr yn 1926 oedd yn rhan o fwndel am £1,500.

Disgrifiwyd Charlie Jones fel un o 'arwyr cudd' Cymru yn y 1920au a'r 1930au, gan nad oedd wastad yn cael cyfle i chwarae dros ei wlad.

Dywedodd Mr Stenett, "Yn y dyddiau hynny, byddai gemau rhyngwladol yn digwydd ar ddydd Sadwrn.

"Arsenal oedd tîm mawr y cyfnod. Os oedd yna gêm ryngwladol gan Loegr ar yr un diwrnod â gêm gynghrair, roedd y clybiau yn debygol o ryddhau'r chwaraewyr gan eu bod yn ystyried yr achlysur yn anrhydedd.

"Ond yna, byddent yn honni nad oeddent yn gallu fforddio colli Charlie Jones, neu rywun tebyg, ac felly yn gwrthod ei ryddhau."

Roedd Mr Stenett wedi bod yn awyddus i geisio prynu rhywbeth yn gysylltiedig â Derrick Sullivan ond roedd y prisiau yn rhy uchel.

Ond llwyddodd Mr Stennet i brynu crys Newcastle gafodd ei wisgo gan Gary Speed, a dywedodd:

"Roedd gennym grys Cymru eisoes yr oedd Gary wedi ei roi i ni yn garedig iawn.

"O dan yr amgylchiadau, roeddwn yn meddwl ei bod yn briodol i mi ddod a hwn adref hefyd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol