Euog o alwadau 999 ffug
- Published
Mae brawd Ffion Wyn Roberts, y ferch gafodd ei llofruddio ym Mhorthmadog yn Ebrill 2010, wedi pledio yn euog i wneud galwadau 999 ffug.
Cafodd Elgan Roberts 22 oed, ddedfryd o garchar wedi ei ohirio gan Ynadon Caernarfon ddydd Mawrth.
Dywedodd ei gyfreithiwr ei fod angen cymorth cwnsela er mwyn ceisio ymdopi â cholli ei chwaer.
Cafwyd hyd i gorff y weithwraig gofal 22 oed mewn hen gamlas yn yr ardal sy'n cael ei alw'n lleol fel Y Cyt, ger archfarchnad Tesco ym Mhorthmadog.
Roedd hi wedi cael ei thagu a'i boddi.
Pwysau mawr
Yn Ebrill 2011 cafwyd Iestyn Davies, 54 oed, yn euog o lofruddio Miss Roberts.
Roedd y llofrudd wedi ceisio rhoi'r bai ar Elgan Roberts am y llofruddiaeth.
Clywodd y llys fod Elgan Roberts wedi gwneud y galwadau 999 ffug pan yn feddw.
Gorchmynnwyd fod Roberts yn gwneud 80 awr o waith cymunedol a thalu costau o £85.
Roedd o wedi gwneud pedwar o alwadau 999 ar fore Chwefror 4.
Dywedodd y barnwr Mr Ustus Lloyd-Jones fod y teulu Roberts wedi bod dan bwysau mawr, a bod y pwysau hynny wedi ei wneud yn fwy oherwydd honiadau celwyddog Davies.
Straeon perthnasol
- Published
- 17 Mehefin 2011
- Published
- 18 Ebrill 2011