Llofruddiaeth: Addewid heddlu Gwlad Thai
- Cyhoeddwyd

Mae heddlu yng Ngwlad Thai wedi addo i "barhau gyda'u hymrwymiad" i chwilio am lofrudd y Gymraes Kirsty Jones.
Cafodd Kirsty, oedd yn 23 oed o Dredomen ger Aberhonddu, ei threisio a'i thagu mewn gwesty yn y wlad yn 2000.
Teithiodd dau o swyddogion Heddlu Dyfed Powys i'r wlad yr wythnos ddiwethaf i gynorthwyo gyda'r ymchwiliad i'w marwolaeth.
Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Steve Wilkins ei fod wedi cael cyfarfod "positif iawn" gyda'i gydweithwyr o Wlad Thai ddydd Mawrth.
Er bod nifer o bobl wedi cael eu harestio, does neb wedi wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â marwolaeth Ms Jones.
DNA
Aeth y ddau swyddog o Gymru i Bangkok i drafod hynt yr ymchwiliad a sampl DNA o un person sydd dan amheuaeth.
Roedden nhw am sicrhau bod yr awdurdodau yno yn parhau gyda'u hymrwymiad i ganfod llofrudd Ms Jones.
Wrth siarad wedi cyfarfod ddydd Mawrth, dywedodd Mr Wilkins: "Rydym wedi cael cyfarfod positif iawn gyda'r cyfarwyddwr cyffredinol a swyddogion o'r adran Ymchwiliadau Arbennig.
"Rydym wedi derbyn sicrwydd o'u hymrwymiad parhaus i chwilio am y person a laddodd Kirsty bron 12 mlynedd yn ôl, a'i erlyn.
"Fe wnaethon ni drafod trywydd yr ymchwiliad gan ganolbwyntio ar DNA.
"Fe siaradon ni hefyd am ambell drywydd arall posib i'r ymchwiliad, ond fe fyddaf yn trafod y rhain ymhellach gyda'r teulu cyn cymryd camau pellach."
Tystion eraill
Ychwanegodd Mr Wilkins bod yr heddlu wedi ail holi rhai tystion sydd bellach yn byw yn y DU, ac wedi canfod tystion eraill sy'n byw yng Ngwlad Thai ac India.
Cafwyd hyd i gorff Ms Jones mewn ystafell yng Ngwesty Aree yn Chiang Mai yng ngogledd y wlad, rhyw 435 milltir o'r brifddinas Bangkok.
Dri mis yn gynharach roedd wedi cychwyn ar daith dwy flynedd o amgylch y byd.
Mae ei mam, Sue Jones, wedi addo i beidio rhoi'r gorau i'r frwydr i weld llofrudd ei merch yn cael ei ddal.
Straeon perthnasol
- 16 Chwefror 2012
- 12 Awst 2011
- 9 Awst 2011
- 25 Gorffennaf 2011
- 10 Awst 2005
- 30 Ionawr 2002
- 7 Awst 2003
- 7 Medi 2000
- 25 Awst 2000